Cofio trychineb awyrenwyr Cyffordd Llandudno

  • 15 Chwefror 2014
Melville Samuels
Bedd Rhingyll Melville Samuels ym mynwent Eglwys Sant Llwydian, Heneglwys, Ynys Môn

Ar Chwefror 15, 1944, plymiodd awyren fomio, Avro Anson, i goedwig gerllaw pentref yn y gogledd, gan ladd pawb y tu fewn.

Bron yn union 70 mlynedd ers y drychineb, mae gwasanaeth wedi digwydd yn Eglwys Sant Mihangel a'r holl Angylion, yng Nghyffordd Llandudno, i gofio'r pump fu farw.

Ar ôl y gwasanaeth, cafodd plac i gofio'r drychineb yn cael ei dadorchuddio yng Nghanolfan Cymunedol y pentref.

Mae yna ardd wedi ei chreu yno fel cofeb iddynt yn barod.

Beth oedd hanes y pump?

Ers 2011, mae Gwyn Hughes o Grŵp Hanes Deganwy, wedi bod yn ymchwilio i mewn i'r digwyddiad sydd wedi bod yn ddirgelwch am 70 mlynedd.

Yn Chwefror 1944, roedd yr awyren wedi gadael maes awyr RAF Mona ar Ynys Môn ac roedd i fod i hedfan i Faes Awyr RAF Richmond yn Swydd Efrog, cyn dod yn ôl.

Ar yr awyren roedd pump o awyrenwyr, yn dod o Gymru, Lloegr, Gwlad Pwyl a Seland Newydd.

Ond fe blymiodd yr awyren i Goedwig Marl rhwng Gwesty Neuadd Bodysgallen a Chae Erw yn agos i'r ffordd A470 presennol.

Meddai Gwyn: "Roeddwn yn gweithio i BT yn y 1970au pan glywais yr hanes, roeddwn yn dod o'r ardal ond doeddwn ddim wedi clywed dim amdano o'r blaen.

"Yn 2011, cefais fy ysgogi i ymchwilio'r hanes wrth weld yr hogiau yn dod adref o Irac.

"Roeddwn yn gweld hi'n biti nad oedd yna gofeb i'r awyrenwyr.

"Mewn llyfrau, mae yna baragraff neu frawddeg am hanes yr awyren, ond yn wahanol i nifer o ddamweiniau eraill o gwmpas Gogledd Cymru, doedd ddim byd yn y papurau lleol."

Trwy ymchwilio, daeth o hyd i enwau'r awyrenwyr, a'u bod yn rhan o hediad Arsylwi Rhif Wyth wedi eu cartrefu ym maes awyr Mona.

Yno roedd peilotiaid, saethwyr gynnau a chyfeirwyr yn gorffen eu hyfforddiant cyn iddynt fynd ymlaen i wasanaethu yn y Rheolaeth Awyrennau Bomio.

Avro Anson
Avro Anson oedd yr awyren a ddaeth i lawr yng nghoedwig Marl ger Cyffordd Llandudno

Ychwanegodd Gwyn: "Digwyddodd y ddamwain o gwmpas 3.30yh ac mae'r dogfennau'n dweud mai 3.05pm y gadawodd yr awyren faes awyr Mona.

"Yn swyddogol, fe wnaeth yr awyren blymio i afon ar gyrion coedwig Marl, a doedd yna ddim ffrwydrad.

"Ond mae'r llygaid dystion dwi 'di siarad efo yn gwrth-ddweud hynny.

"Plant oedd y rhan fwyaf ohonynt yn dod adref o'r ysgol ond beth maen nhw'n ddweud yw ei fod wedi plymio'n raddol i lawr, a bod darnau o'r awyren yn disgyn oddi arni.

"Yn ôl beth dwi'n ddeall, roedd y "fflaps" ar yr adain wedi torri."

Chwilio am deulu'r awyrenwyr

Mae Gwyn wedi darganfod aelodau o deuluoedd yr awyrenwyr, ac mae disgwyl y bydd rhai yn dod i'r gwasanaeth.

Dywedodd: "Roedd y peilot, Melville Owen Samuels, wedi ei eni yn y Rhaeadr, yn y Canolbarth.

"Wedi'r ddamwain, symudodd ei deulu i Lundain, a'r tristwch ydi bod ei frawd, a oedd yn aelod o'r Rheolaeth Awyrennau Bomio, wedi marw 18 mis yn ôl.

"Ymfudodd teulu Jan Radecki o Wlad Pwyl i America a dwi'n meddwl eu bod yn byw yn ninas Buffalo.

"Dwi wedi cysylltu gyda theulu'r awyrenwr o Seland Newydd. Yn amlwg, mae'n ffordd bell iddynt ddod draw i'r gwasanaeth yfory, ond maen nhw'n dweud y byddent yn dod yma rhywbryd yn y dyfodol."

Diwrnod emosiynol

Dywedodd Cynghorydd Sir Conwy, Mike Priestley: "Yn tyfu i fyny, roeddwn yn ymwybodol o'r ddamwain ond nid y manylion.

"Gwrandawais ar Gwyn yn siarad amdano ac roedd rhaid i mi helpu.

"Dwi'n meddwl bydd hi'n ddiwrnod emosiynol iawn, mae rhai o'r teuluoedd wedi cyrraedd yn barod, ac yn falch ein bod yn gwneud hyn."

Mae gan Gwyn theori am y rhesymau pam bod y cyfan wedi cael ei gadw mor dawel.

Roedd harbwr dros dro, symudol, yn cael ei hadeiladu yng Nghonwy ar y pryd.

Bu'r harbwr hwn yn hollbwysig wrth i Brydain ymosod ar Normadi ym Mehefin 1944.

Y gred yw bod y Llywodraeth wedi mynnu bod rhaid cadw'r ddamwain yn gyfrinach, rhag ofn i'r Almaenwyr sylweddoli beth oedd yn digwydd yno.