Caerdydd 'angen y pwyntiau' fwy na Abertawe

Kenwyne Jones scoring for Cardiff City on his debut against Norwich Image copyright Getty Images

Tri phwynt o wahaniaeth sydd yn bodoli rhwng Caerdydd ac Abertawe yn yr uwchgynghrair. Mae'r gêm ddydd Sadwrn felly yn allweddol i'r ddau dîm.

Ond yn ôl un o chwaraewyr yr Adar Gleision mae Caerdydd angen y pwyntiau yn fwy na'r Elyrch.

"Mae'r ddau dîm mewn sefyllfaoedd gwahanol a dw i yn credu ein bod ni angen y pwyntiau mwy na nhw. Felly mae'n rhaid i ni fynd amdani i gael y pwyntiau a thrio chwarae gêm dda," meddai Kenwyne Jones.

Mae'r dyn o Drinidad a Tobago yn dweud ei fod yn gwybod beth i ddisgwyl yn ystod y gêm. Pan oedd o yn chwarae efo Sunderland mi fuodd na sawl gem rhwng y clwb hwnnw a Newcastle. Mi ymunodd Jones gyda Chaerdydd ym mis Ionawr.

"O'r hyn mae pobl wedi dweud wrthai am y darbi yn ne Cymru, mae'n debyg iawn i'r un yn y gogledd ddwyrain.

"Ond mae'n rhaid i ni chwarae'r gêm a pheidio meddwl am yr achlysur. I fi a lot o'r chwaraewyr profiadol eraill yn y garfan dw i ddim yn meddwl y cawn ni ein harswydo.

"Mae'r darbi yn rheswm i'r cefnogwyr fynd yn wyllt. Ond i ni fel tîm mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar y gêm ac ennill y gêm."

Gêm enfawr

Dyma'r tro cyntaf i Garry Monk arwain Abertawe ar ôl i Michael Laudrup gael ei ddiswyddo nos Fawrth. Fo oedd capten y clwb ac mae wedi cyfaddef fod bod yn rheolwr dros dro wedi bod yn ychydig o sioc.

"Doeddwn i ddim wedi cael unrhyw awgrym. Mi oeddwn i jest wedi cael gwybod y dylen ni baratoi'r tîm ac wrth gwrs fy nghlwb i yw hwn.

"Mi wnaf i unrhyw beth ar gyfer y clwb. Dw i wedi dweud hynny ers i mi fod 'ma."

Mae o yn ymwybodol o bwysigrwydd yr achlysur ddydd Sadwrn.

"Does yna ddim gem llawer anoddach na un darbi. Mae'n enfawr. Gan ystyried yr hyn sydd wedi digwydd wythnos yma hefyd mae'r gêm yn hyd yn oed mwy pwysig."

Yn y 12fed safle y mae Abertawe yn nhabl yr uwchgynghrair. Ond tri phwynt sydd yn ei gwahaniaethu nhw a Chaerdydd sydd yn 19eg.

Mi chwaraeodd y ddau glwb yn erbyn ei gilydd gyntaf yn 1912. Caerdydd enillodd y tro diwethaf iddyn nhw gyfarfod o 1-0.

Straeon perthnasol