Buddugoliaeth yn Blackpool i Seindorf Ieuenctid Biwmares

  • 10 Chwefror 2014
Seindorf Biwmares
Seindorf Ieuenctid Biwmares yn dathlu eu buddugoliaeth

Am adloniant cerddorol, does yna ddim seindorf ieuenctid gwell ym Mhrydain na'r un o Fiwmares.

Daeth eu hadran ieuenctid yn gyntaf yng Nghystadleuaeth Adloniant Seindorf Ieuenctid Prydain yn Neuadd Winter Gardens yn Blackpool ddydd Sul, Chwefror 9.

Yn ôl eu harweinydd Gwyn Evans, mae'r gystadleuaeth yn wahanol i'r arfer, oherwydd mai adloniant yw'r nod, yn hytrach na chwarae darn testun a derbyn beirniadaeth.

Dywedodd: "Roedd yn fuddugoliaeth ffantastig."

"Chwarae teg iddynt roedden nhw wedi bod yn ymarfer yn galed iawn dros y mis diwethaf.

"Pwrpas y gystadleuaeth yw adloniant, ac felly yn lle pawb yn chwarae'r un darn gosod, roedd rhaid i ni roi rhaglen 20 munud at ei gilydd.

"Es i ati i drefnu rhaglen cerddoriaeth o ganeuon gwerin Cymraeg, Llongau Caernarfon, Gwŷr Harlech, Ar hyd y Nos, Sosban Fach a Migildi Magaldi i orffen.

'Gwefreiddiol'

"Felly roedd yn rhaglen eithaf gwladgarol, ac roedd aelodau'r band wedi gwisgo i fyny yn lliwiau Cymru, coch gwyn a gwyrdd.

"Roedd yr ymateb a gawsom ni yn wefreiddiol.

"Dwi di bod yn arwain y Seindorf ers 25 mlynedd ac wedi chwarae mewn cannoedd o gyngherddau, a dwi heb weld pawb yn sefyll i fyny i gymeradwyo yn cynnwys aelodau'r bandiau eraill o'r blaen.

"Roedd gen i groen gŵydd ar fy mreichiau o'i herwydd."

Nid yn unig oedd y seindorf wedi ennill y gystadleuaeth ond roedd un o'u chwaraewyr cornet, Pippa Scourse, wedi ei henwi fel unawdydd gorau'r gystadleuaeth, tra bod yr adran ewffoniwm wedi ei henwi fel yr un orau yn y gystadleuaeth.

Ychwanegodd Mr Evans: "Ym mis Medi wnes i benderfynu dechrau arwain yr adran ieuenctid eto, oherwydd nad oedden nhw wedi bod yn cael y sylw roeddent yn ei haeddu.

"Maen nhw wedi gweithio'n galed iawn dros y misoedd diwethaf; wedi ennill y gystadleuaeth i ieuenctid, wedi ennill ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Gogledd Cymru yn mis Tachwedd a fel roeddwn yn dweud wrthyn nhw, mae pethau anhygoel yn gallu digwydd os mae'r gwaith caled yn cael ei roi i mewn.

"Mae hyn yn rhoi hwb i ni gyd fel seindorf ac i'r gymuned yma ym Miwmares."