Hybu'r iaith yn 'her' i gymunedau gwahanol Sir Ddinbych

  • 7 Chwefror 2014
Eisteddfod genedlaethol
Dywedodd Cefin Campbell bod cyngor Sir Ddinbych yn 'awyddus i adeiladu ar lwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol'

Mae hybu'r iaith Gymraeg yn "heriol" yn Sir Ddinbych, oherwydd y gwahaniaeth mawr rhwng cymunedau arfordirol a chefn gwlad yn y sir.

Dyna y mae'r dyn sy'n adolygu sefyllfa'r iaith Gymraeg yn Sir Ddinbych yn ei ddweud, wedi nifer o gyfarfodydd cyhoeddus diweddar.

Dywedodd Cefin Campbell bod angen cynllunio i "liniaru effaith" datblygiadau newydd yn y sir, a sicrhau bod mewnfudwyr yn cael eu hintegreiddio yn well.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dweud bod y cyfarfodydd wedi rhoi cyfle i leisio barn ar y Gymraeg, "nid yn unig o fewn y Cyngor Sir ond o fewn y gymuned ehangach".

'Awydd gwirioneddol i symud ymlaen'

Dangosodd y cyfrifiad bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Ddinbych wedi gostwng o 23,760 i 22,236 rhwng 2001 a 2011.

Fel rhan o adolygiad ehangach i'r iaith Gymraeg yn Sir Ddinbych, cafodd tri chyfarfod cyhoeddus eu cynnal yng Nghorwen, Prestatyn a Dinbych ddiwedd mis Ionawr.

Cwmni Sbectrwm oedd yn cynnal y cyfarfodydd, a dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Cefin Campbell bod y cyfarfodydd wedi bod yn galonogol, ond hefyd wedi dangos yr heriau sydd yn y sir.

"Roedd cymysgedd o'r ddau, calonogol iawn achos yr ymateb ac roedd lot o frwdfrydedd ym mhob cyfarfod," meddai. "Mae awydd gwirioneddol i symud pethau ymlaen yn y cyngor a'r gymuned."

Ond, dywedodd bod Sir Ddinbych yn wynebu heriau mawr, gan fod gymaint o wahaniaeth rhwng cymunedau trefol ar arfordir y sir, a'r rheiny yng nghefn gwlad.

"Mae Sir Ddinbych yn ddiddorol achos bod 50% o'r cymunedau trefol wedi eu geni yn Lloegr, ac mae mewnfudo yn cael effaith mawr yno.

"Ond mae angen cynllun gwahanol yng nghefn gwlad.

"Mae ffin amlwg ar hyd yr A55 rhwng cymunedau trefol a gwledig."

Newidiadau posib

Dywedodd Mr Campbell bod syniadau diddorol wedi eu hawgrymu yn y cyfarfodydd, a'r cam nesaf fyddai gorffen yr adroddiad a chyflwyno argymhellion i'r Cyngor Sir.

Mae Mr Campbell, sydd wedi cynnal ymgynghoriadau tebyg yn y gorffennol yn Wrecsam, ac wrthi yn gwneud un arall yn Sir Gaerfyrddin, yn dweud bod gan bob sir ei sialensau unigryw, a bod angen adnabod y ffactorau pwysig ym mhob ardal.

O ganlyniad i'r cyfarfodydd cyhoeddus, dywedodd y byddai argymhellion yn cael ei gwneud mewn sawl maes.

Ymhlith y rhai sy'n cael eu hystyried mae:

  • Newidiadau i ddarpariaeth addysg Cymraeg
  • Darpariaeth cymunedol i oedolion ddefnyddio'r iaith
  • Cynlluniau i sicrhau bod mewnfudwyr di-Gymraeg yn teimlo yn rhan o'r gymdeithas Gymraeg
  • Cynlluniau i leihau effaith datblygiadau tai newydd fel ym Modelwyddan ar yr iaith

Dywedodd y byddai newidiadau ym maes datblygu yn "heriol, gan fod unrhyw newid polisi yn cymryd amser, ond mae angen cynllunio i liniaru'r effaith".

'Hyrwyddo i'r gymuned ehangach'

Yn ôl y Cyngor, roedd y cyfarfodydd wedi rhoi adborth ar nifer fawr o bynciau.

"Roedd y Cyngor yn hapus iawn gyda'r ymateb a gafwyd yn ystod y cyfarfodydd, gydag ymhell dros gant o drigolion lleol a chynrychiolwyr mudiadau yn cymryd rhan mewn trafodaeth ar sefyllfa'r Gymraeg yn y sir," meddai llefarydd.

"Roedd y cyfarfodydd yn rhoi cyfle i leisio barn, ond hefyd i gynnig syniadau ar sut y gallwn hyrwyddo'r Gymraeg, nid yn unig o fewn y Cyngor Sir ond o fewn y gymuned ehangach.

"Cafwyd adborth ar ystod eang o bynciau, yn cynnwys addysg, hamdden, cynllunio, cymdeithasau diwylliannol a defnydd o'r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Y cam nesaf fydd cysidro'r adborth er mwyn llunio argymhellion fydd wedyn yn cael eu cysidro gan y Cyngor."

Mae disgwyl i'r argymhellion gael eu cyhoeddi ym mis Mawrth.