Pwerau treth incwm: gwahaniaeth barn?

  • 6 Chwefror 2014
Owen Smith
Roedd sylwadau Owen Smith AS yn groes i dystiolaeth Carwyn Jones, yn ôl y Ceidwadwyr

Mae'r Ceidwadwyr wedi honni bod gwahaniaeth barn rhwng Llywodraeth Cymru ac Owen Smith, llefarydd y blaid ar Gymru.

Dywedodd Mr Smith wrth Aelodau Seneddol ddydd Mercher nad oedd y Prif Weinidog Carwyn Jones eisiau pwerau treth incwm ar hyn o bryd nac yn y dyfodol.

Er nad yw Llywodraeth Cymru am i'r pwerau gael eu datganoli ar hyn o bryd, fe ddywedodd Mr Jones ym mis Tachwedd bod ei lywodraeth yn "croesawu'r ffaith bod mecanwaith mewn lle ar gyfer datganoli treth incwm yn y dyfodol".

"Mae hynny'n bwysig," ychwanegodd Mr Jones.

Ddim eisiau'r pwerau?

Yng nghyfarfod yr yr Uwchbwyllgor Cymreig ddydd Mercher dywedodd Mr Smith: "Mae'r Prif Weinidog (Carwyn Jones) wedi bod yn hynod o glir - ni wnaeth ofyn am bwerau i amrywio treth incwm, nid yw'n credu bod hynny'n flaenoriaeth i Gymru, nid yw'n credu y byddai Cymru'n elwa ar hynny ac ni fyddwn ni'n gofyn am bwerau i amrywio treth incwm yn y dyfodol."

Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud bod tystiolaeth ysgrifenedig Mr Jones i'r Pwyllgor Materion Cymreig yn dweud y dylai treth incwm gael ei datganoli o dan rai amodau.

Mae'r ddogfen yn dweud y dylid datganoli treth incwm i Gymru wedi refferendwm, a bod angen gwell trefniant ariannu rhwng San Steffan a Llywodraeth Cymru.

Guto Bebb
Mae rhwyg o fewn Llafur, yn ôl Guto Bebb

Mae'r AS Ceidwadol Guto Bebb wedi dweud bod y sefyllfa'n dangos "rhwyg anferth" rhwng Llafur yn y Cynulliad ac yn San Steffan.

Dywedodd wrth y pwyllgor: "Mewn papur a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Materion Cymreig ar Ionawr 15, 2014, mae'n glir bod Llywodraeth Cymru yn gefnogol i ddatganoli treth incwm.

"Mae'r dystiolaeth ysgrifenedig a roddwyd gan Lywodraeth Cymru ar Ionawr 14 yn dweud yn ddigamsyniol eu bod o blaid datganoli treth incwm os bydd refferendwm."

Mewn cyfweliad ar BBC Radio Wales fe wadodd Mr Smith fod unrhyw wrthdaro rhyngddo ef a Mr Jones.

'Gêm beryglus'

Dywedodd nad oedd Llafur wedi "gofyn am y pŵer," gan ychwanegu: "Mae ein heconomi yn codi £18 biliwn y flwyddyn mewn trethi ac yn gwario £30 biliwn.

"Does dim angen mathemategydd o Harvard i ddeall bod trosglwyddo'r pwerau dros godi trethi yn gêm beryglus."

Dywedodd y byddai'n fodlon newid ei feddwl petai'n cael sicrwydd y byddai Cymru ar ei hennill, na fyddai'n achosi problemau i'r uniad gyda Lloegr, y byddai'n newid sut byddai Cymru'n cael ei hariannu a bod pobl Cymru o blaid.

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi gwadu unrhyw wrthdaro.

'Da i ddim'

Dywedodd: "Fe wnaethon ni groesawu cyhoeddiad Silk gan ei fod yn rhoi i ni y rhan fwyaf o'r hyn y gwnaethon ni ofyn amdano.

"Ond mae cyflwyniad Llywodraeth Cymru i Gomisiwn Silk yno ar gof a chadw.

"Mae'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Cyllid wedi bod yn glir yn eu barn bod y model o dreth incwm sy'n cael ei gynnig gan y Torïaid yn dda i ddim i bob pwrpas.

"Mae hyd yn oed Plaid Cymru yn derbyn y safbwynt yna.

"Mewn egwyddor mae'n bwysig y bydd mecanwaith i ddatganoli treth incwm ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol yn y dyfodol ond does dim awydd i weithredu ar hynny nawr, yn enwedig o ystyried y model sy'n cael ei gynnig."