P'un ai myfi neu arall, Ann

Nawr, rwy'n gwbl sicr y byddai Ann Clwyd yn hanner fy lladd pe bawn i'n ysgrifennu unrhyw beth tebyg i ysgrif goffa yn sgil ei chyhoeddiad ei bod yn paratoi i roi'r tŵls ar y bar yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Mae 'na ddigon o betrol ar ôl yn y tanc ac rwy'n sicr y gwnawn ni glywed llawer mwy ganddi ar ôl iddi adael San Steffan.

Fe fydd 'na gyfle eto i gloriannu ei chyfraniad seneddol, ond mae'n briodol efallai i nodi un o'u chyflawniadau mwyaf sef y ffaith ei bod hi wedi ei hethol i'r senedd o gwbwl. Mae'n rhyfeddol i feddwl mai dim ond tair menyw oedd wedi cynrychioli etholaethau Cymreig cyn i Ann gael ei hethol yn 1984 a gellir dadlau bod dwy o rheiny ond wedi llwyddo i ddringo i'r brig oherwydd pwy oedd eu tadau.

Enillodd Ann yn ei rhinwedd ei hun ar ôl gweithio talcen caled iawn am flynyddoedd. Dydw i ddim yn cofio sawl rhestr fer Llafur y gwnaeth enw Ann ymddangos arnynt ond roedd 'na fwy nac un. Rwy'n cofio iddi ymgeisio am yr enwebiad yng Nghaerffili un tro ond dydw i ddim yn sicr ai yn erbyn Ednyfed Hudson Davies yn 1979 yntau Ron Davies yn 1983 oedd hynny. Ta waeth, o gofio bod y deuddyn yna wedi cefni ar Lafur siawns y byddai Ann wedi bod yn ddewis saffach!

Roedd talentau gwleidyddol Ann yn amlwg ar y pryd ac mae'n anodd osgoi'r casgliad nad rhagfarn yn erbyn menywod mewn gwleidyddiaeth oedd o leiaf yn rhannol gyfrifol am y llwybr caled y bu'n rhaid i Ann ei gerdded.

O sefyll y tu fas i'r gynhadledd ddewis yn Aberdâr yn 1984 felly a gweld y dwsinau o ddynion canol oed oedd a'r gair olaf yn cyrraedd, anodd oedd credu y byddai Cwm Cynon yn wahanol i Gaerffili a'r gweddill. Hwyrach rhyw dro y byddai un o bwyllgorau etholaeth Llafur yn y cymoedd yn dewis enwebu menyw - ond nid y rhain, nid y dynion boliog yma gyda'u teis cyfrinfa, eu peintiau cwrw a'u Players No. 6.

Ar ôl rhyw ddwy awr yn sythu yn y maes parcio fe ddaeth y newyddion. Roedd Ann wedi ei dewis a hithau wedyn yn ymddangos yn wen o glust i glust.

Doedd dim amheuaeth y byddai'n cael ei hethol.

Fe geisiodd ymgeisydd Plaid Cymru ei baglu trwy frolio ar boster taw fe oedd "Your Valley's Man". Doedd hynny ddim yn un o'r penodau mwyaf anrhydeddus yn hanes y blaid ond go brin fod Ann yn malio taten! Roedd hi ar ei ffordd i San Steffan.

Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach mae'r nifer o fenywod sydd wedi cynrychioli etholaethau Cymreig yn San Steffan wedi cynyddu i ddeuddeg. Do fe wnaethoch chi ddarllen hynny'n iawn. Ers i San Steffan agor ei drysau i fenywod yn 1918 deuddeg menyw'n unig sydd wedi eu hethol o Gymru.

Mae'n ffigwr syfrdanol a thruenus ond fe fyddai wedi bod hyd yn oed llai pe na bai Ann wedi cwffio mor galed i dorri i mewn i'r gaer.