Gerwyn Capon yw deon newydd Llandaf

Parchedig Gerwyn Capon Image copyright Yr Eglwys yng Nghymru
Image caption Bydd y Parchedig Capon yn dechrau ei swydd newydd ddiwedd mis Chwefror

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi cyhoeddi mai'r Parchedig Gerwyn Capon sydd wedi cael ei ddewis fel deon newydd Llandaf.

Bydd yn gadael ei swydd fel caplan Archesgob Cymru, Barry Morgan, ac yn ymgymryd â'i ddyletswyddau newydd ar ôl seremoni yn y Gadeirlan ar 28 Chwefror.

Yn y gorffennol mae'r Parchedig Capon, sydd o Ynys Môn yn wreiddiol, wedi gweithio ym maes datblygu eiddo, profiad oedd o fudd iddo pan yn ymgynghorydd i Eglwys Lloegr ar y Gronfa Drefol Eglwys yn Lerpwl.

O Lerpwl aeth ymlaen i weithio fel offeiriad yn Blackburn.

Wrth i'r newyddion gael ei gyhoeddi, dywedodd y Parchedig Capon: "Mae bod yn ddeon Llandaf yn gyfle bendigedig i unrhyw offeiriad - mae'n fraint i mi fod yr Archesgob wedi ymddiried ynof i ar gyfer y swydd hon, gan wybod y cyfrifoldebau mae'n ei gynnwys.

"Rwyf eisoes wedi derbyn llawer o gefnogaeth ac anogaeth gan gymuned y Gadeirlan, yn ogystal â nifer o fy nghyd glerigwyr yn yr esgobaeth.

"Bydd hynny'n fy atgoffa nad ydw i ar ben fy hun wrth i mi wneud y swydd ryfeddol hon.

"Gyda'n gilydd byddwn yn parhau i gadw drysau'r eglwys brydferth hon yn agored fel bod gan bawb y cyfle i deimlo dyfnder presenoldeb Duw yn ein byd, ac i roi cymorth i'w bobl i gysylltu gyda'r neges o gariad diamod a chymod sydd yn cael ei ddathlu yma."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.