Diwrnod olaf hufenfa Hendy-gwyn

Proper Welsh Milk
Roedd Proper Welsh Milk am brosesu llaeth o Gymru yn benodol yng Nghymru.

Fe fydd ffatri laeth Proper Welsh yn Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin, yn cau heddiw.

Fe fydd llaeth sy'n cael ei brosesu yno rwan yn mynd i ffatri Dairy Crest yn Swydd Gaerloyw.

Roedd Proper Welsh Milk wedi agor yr hufenfa yn benodol am eu bod eisiau gweld llaeth Cymreig yn cael ei brosesu yng Nghymru.

Fe fydd dros 26 o swyddi'n diflannu.

Dim ond un ffatri cyflenwi llaeth sydd rwan ar ôl yng Nghymru.

Newid dwylo

Roedd Dairy Crest yn rheoli hufenfa Hendy Gwyn tan 1994, ond yn 2011, fe brynwyd y safle gan Proper Welsh Milk.

Mae Proper Welsh Milk yn gyfuniad o ddau gwmni - Calon Wen a Really Welsh, ac fe fuddsoddwyd £1.5 miliwn yn y safle.

Eu bwriad oedd prosesu llaeth o Gymru yn benodol yng Nghymru a'i farchnata felly.

Roedd Marks and Spencer a chwmnïau eraill yn hoffi hynny.

Ond roedd problemau ariannol, ac fe fuon nhw o fewn dim i gau ym mis Mawrth 2013.

Bryd hynny, fe brynwyd y busnes gan Dairy Crest ar Ddydd Gwyl Dewi, gyda'r nod o barhau i gynhyrchu a datblygu cynnyrch newydd yno.

Erbyn hyn, mae Dairy Crest yn dweud nad oedd yr hufenfa'n ddigon mawr i gyfiawnhau y buddsoddiad oedd ei angen mewn offer newydd ac felly fe fydd yn cau'r safle.

Fe fydd y llaeth rwan yn cael ei gludo i ardal Stroud yn Swydd Gaerloyw a brand Proper Welsh Milk yn diflannu.

Dim ond ffatri Tomlinsons yn Wrecsam sydd bellach yn cyflenwi llaeth Cymreig i'r archfarchnadoedd.