Plaid Cymru'n dweud eu bod 'yn barod i ffurfio polisïau iaith'

  • 22 Ionawr 2014

Mae Plaid Cymru wedi dweud eu bod nhw'n "barod i ffurfio polisïau" am sut i gryfhau sefyllfa'r iaith Gymraeg.

Mewn dadl yn y Senedd dywedodd Simon Thomas eu bod nhw wedi cynnal ymchwil ac yn barod i gyflwyno syniadau positif "yn wahanol i ymateb llugoer y llywodraeth".

Dywedodd y byddai'r blaid yn cymryd camau mewn nifer o feysydd er mwyn ceisio atal dirywiad yr iaith.

Byddai'r rhain yn cynnwys:

  • Newidiadau i'r Gymraeg ym myd addysg, er enghraifft cyflwyno'r iaith i bob plentyn yng Nghymru a gwella'r pontio rhwng cyfnodau;
  • Unioni polisi gofal plant gyda strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg a chynnig gwersi i rieni di-Gymraeg â phlant sy'n dysgu drwy gyfrwng yr iaith;
  • Ceisio'i gwneud hi'n haws i siaradwyr Cymraeg aros a gweithio yn eu cymunedau lleol;
  • Hybu cyrff cyhoeddus i ddefnyddio'r iaith yn naturiol yn fewnol - dywedodd Mr Thomas fod Cyngor Gwynedd yn enghraifft o gorff sy'n gwneud hyn yn dda yn barod;
  • Sicrhau hawliau cryf i siaradwyr Cymraeg drwy gyfrwng y safonau iaith - dywedodd nad yw'r rhai y mae'r lywodraeth wedi eu cyflwyno yn ddigon cryf.

'Ddim yn ddigon da'

Yn y ddadl cyfeiriodd Aled Roberts o'r Democratiaid Rhyddfrydol at adroddiad diweddar ar ieithoedd lleiafrifol oedd yn nodi nifer o bryderon am ragolygon yr iaith.

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru angen gwneud mwy i sicrhau bod cynghorau'n cyflwyno cynlluniau strategol ar gyfer darparu addysg Gymraeg.

"Dyw hyn ddim yn ddigon da," meddai Mr Roberts.

"Yn ôl yr adroddiad dyw awdurdodau ddim yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifri bellach. Mae'n bryd i ni weithredu."

Dywedodd Suzy Davies ar ran y Ceidwadwyr ei bod yn bwysig perswadio pobl gyffredin fod sgiliau iaith yn arwain at fudd economaidd.

"Rhaid dangos i bobl pam bod gwerth iddyn nhw fod yn ddwyieithog," meddai, "ac mae hon yn her i'r galon ac i'r meddwl".

'Ewyllys da'

Image caption Mr Jones: 'Dim atebion clir'

Wedyn dywedodd Y Prif Weinidog Carwyn Jones, sydd â chyfrifoldeb dros faterion yr iaith, fod "ewyllys da at yr iaith bellach" ond nad oedd gan ei lywodraeth "atebion clir".

Roedd addysg yn bwysig, meddai, ond bod angen ystyried llawer o faterion eraill.

Dywedodd y byddai'n mynd i'r afael â'r materion hyn yn ei ymateb i adroddiad y grŵp gorffen a gorchwyl.

Mae'r llywodraeth wedi cymryd camau i wella'r sefyllfa'r iaith, yn ôl Mr Jones, gan gyfeirio at gyflwyno'r TAN20 yn ddiweddar.

"Y cam nesa' fydd ymateb yn llawn i adroddiad Rhodri Llwyd Morgan, a bydd hyn yn digwydd cyn bo hir," meddai.

Straeon perthnasol