Oes angen fersiwn Gymreig o Newsnight?

BBC
Mae ffi drwydded y BBC wedi cael ei rhewi tan 2017

Mae ymgyrch newydd wedi ei lansio er mwyn ceisio perswadio'r BBC i sefydlu rhaglenni Newsnight ar gyfer Cymru.

Gobaith y grŵp yw gweld dwy raglen newydd yn cael eu comisiynu - un Saesneg o'r enw Newsnight Wales ar gyfer BBC2 a Newsnight Cymru yn Gymraeg ar S4C.

Maen nhw'n dadlau bod angen y rhaglenni er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg i wleidyddiaeth Cymru ar y BBC.

Mewn datganiad, dywedodd BBC Cymru eu bod eisoes yn darlledu nifer o raglenni Cymreig yn y ddwy iaith a bod rhaid iddyn nhw flaenoriaethu'r rheiny sy'n cael eu darlledu yn ystod yr oriau brig.

'Cyfnod o newid'

Mae gan wylwyr yn yr Alban eisoes eu rhaglen Newsnight eu hunain sy'n cael ei dangos am 20 munud o 11pm ymlaen ar ddydd Llun i ddydd Iau, yn lle'r fersiwn sy'n cael ei ffilmio yn Llundain.

Mae'r grŵp sydd tu ôl i'r ymgyrch yn dadlau nad yw penderfyniadau gwleidyddion Cymru yn cael eu sgrwtineiddio mewn modd sy'n sicrhau eu bod yn cael eu dwyn i gyfrif, ar hyn o bryd.

Un o lefarwyr yr ymgyrch yw Mabon ap Gwynfor, wnaeth geisio am enwebiaeth Plaid Cymru ar gyfer sedd Dwyfor Meirionnydd ar gyfer etholiad San Steffan yn 2015.

Dywedodd: "Mae Cymru'n mynd drwy gyfnod o newid gwleidyddol; rydyn ni wedi cael pwerau deddfu ar ôl refferendwm 2011, ac mae Mesur Drafft Cymru wedi'i gyhoeddi yn San Steffan allai roi pwerau amrywio trethu a benthyca i Gymru."

'Diffyg democrataidd'?

Newsnight
Cafodd Newsnight Scotland ei sefydlu nôl yn 1999

Ychwaneodd Mr ap Gwynfor: "Bydd y newidiadau yma i gyd yn effeithio ar ein bywydau bob dydd a'r ffyrdd rydyn ni'n byw ein bywydau fel dinasyddion Cymru.

"Mae risg y bydd y newidiadau yma yn digwydd heb i bobl sylweddoli. Mae wedi dod i'r amlwg bod 'diffyg democrataidd' yng Nghymru, ac mae bwlch amlwg rhwng gwleidyddiaeth a'r bobl.

"Bymtheg mlynedd ers cychwyn datganoli, rydyn ni'n credu ei bod yn bryd cael rhaglenni gwleidyddol i Gymru ar lefel debyg i'r hyn sydd yn yr Alban."

Yn ôl Siân Beynon Powell, sydd hefyd yn rhan o'r ymgyrch, mae Newsnight yn "frand mae pobl yn ymddiried ynddo" ac yn gyfrwng pwysig ar gyfer sicrhau fod pobl yn cymryd sylw o'r materion gwleidyddol sy'n effeithio arnyn nhw.

'Cychwyn y drafodaeth'

Ychwanegodd Ms Powell: "Mae'r arbenigedd a'r ddawn ganddon ni'n barod i ddarparu'r rhaglenni yma.

"Mae enw arbennig o dda i ddarlledu yng Nghymru. Rydyn ni'n gobeithio hefyd y bydd gwefan Newsnight Cymru yn rhoi cychwyn ar drafodaeth am yr angen am raglen debyg i Question Time i Gymru yn Saesneg, i gyd-fynd â Pawb a'i Farn.

"Ddylen ni ddim cuddio gwleidyddiaeth Cymru yn rhywle y tu hwnt i afael pobl gyffredin."

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Ers datganoli, mae cyfraniad BBC Cymru Wales i ddatblygu democratiaeth sy'n seiliedig ar wybodaeth yng Nghymru wedi bod yn sylweddol, ac mae ein hymrwymiad yn barhaus."

'Rhaid blaenoriaethu'

BBC Cymru yw prif ddarparwr newyddion yng Nghymru ac mae'r gorfforaeth eisoes yn darlledu nifer o raglenni sydd â chynnwys gwleidyddol ar y radio, ar y teledu ac ar-lein.

Ychwanegodd y llefarydd: "Mae sgôp y rhaglenni hyn - sy'n amrywio o'r Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru i Wales Today ar BBC One Wales - yn sylweddol ac mae'n cyrraedd oddeutu 1.4m o bobl yng Nghymru bob wythnos.

"Mae ein rhaglenni wythnosol ar wleidyddiaeth yn ategu amrywiaeth o raglenni newyddion dyddiol.

"Er nad yw'r rhaglenni hyn yn denu cynifer o wylwyr â'n rhaglenni newyddion dyddiol, mae ganddynt rôl bwysig o ran esbonio, dadansoddi a chraffu ar bolisïau a straeon gwleidyddol.

"Mae ffi drwydded y BBC wedi'i rhewi tan 2017 ac un o'r egwyddorion sy'n sail i ddull gweithredu BBC Cymru ar gyfer cwrdd â'r heriau ariannol a ddaeth yn sgil y setliad hwn yw blaenoriaethu rhaglenni yn ystod yr oriau brig pan mae'r ffigurau cynulleidfa uchaf."