Rhanbarthau'n ystyried troi at Loegr

  • 19 Ionawr 2014
Roger Lewis
Image caption Roger Lewis "wedi ymrwymo i wneud i'r pedwar rhanbarth weithio."

Mae rhanbarthau rygbi Cymru wedi cadarnhau cynlluniau i ymuno ag Uwchgynghrair Lloegr os nad oes yna Gwpan Ewropeaidd newydd.

Ymddangosodd y rhanbarthau ac Undeb Rygbi Cymru (URC) gyda'i gilydd yn gyhoeddus ddydd Sul, y tro cyntaf iddyn nhw wneud hynny ers i ffrae godi'r llynedd dros arian, rheolaeth y gêm a chystadlaethau.

Fe gymron nhw ran mewn rhaglen Scrum V arbennig a gafodd ei darlledu ar BBC 2 Wales.

Dywedodd URC nad ydyn nhw wedi trafod creu timau newydd pe bai'r rhanbarthau yn gadael.

Dywed y rhanbarthau eu bod eisiau cymryd rhan mewn cystadleuaeth Ewropeaidd newydd a fyddai'n cymryd lle cwpanau Heineken ac Amlin. Honnir y gallai'r gystadleuaeth newydd olygu £1m ychwanegol ar gyfer pob rhanbarth, bob tymor.

Ond mae URC yn mynnu cael cefnogaeth ar gyfer y cystadlaethau presennol a'r cytundebau teledu cysylltiedig.

Maer ddwy ochr wedi bod yn trafod y tu ôl i ddrysau caeedig ers dechrau Ionawr, ond fe wnaethon nhw gwrdd yn gyhoeddus am y tro cyntaf ddydd Sul o flaen cynulleidfa mewn stiwdio deledu.

Wrth gyfrannu i'r drafodaeth, dywedodd Gareth Davies, prif weithredwr Dreigiau Casnewydd Gwent: "Mae'r ddealltwriaeth sydd 'da ni gyda chlybiau Lloegr yn eitha' solet, er nad y'n ni'n bychanu'r rhwystrau enfawr sydd yn y ffordd os yw hynny i ddigwydd."

Mae yna ddyfalu wedi bod y byddai'r undeb yn creu timau newydd i gymryd rhan yng nghwpanau Heineken ac Amlin, wedi i'r rhanbarthau wrthod arwyddo cytundeb gydag URC erbyn nos Calan.

Ond fe wadodd prif weithredwr URC Roger Lewis hynny ar y rhaglen:

"Fel prif weithredwr URC, dwi heb gael unrhyw sgyrsiau preifat am sefydlu unrhyw ranbarthau newydd," meddai.

Ychwanegodd ei fod "wedi ymrwymo i wneud i'r pedwar rhanbarth weithio."

Wrth i'r ddwy ochr geisio cael hyd i ddatrysiad, mae chwech o chwaraewyr amlycaf Cymru yn ystyried cytundebau canolog gydag URC.

Mae'r capten Cymru Sam Warburton yn un ohonyn nhw, ac mae 'na adroddiadau ei fod ar fin arwyddo.

Bydd yr undebau sy'n cynrychioli Lloegr, Yr Alban, Cymru, Iwerddon, Ffrainc a'r Eidal yn cwrdd eto ddydd Mawrth i geisio cytuno ar drefniadau ar gyfer cwpan Ewropeaidd y tymor nesaf.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.