Abertawe 1-3 Spurs

  • 19 Ionawr 2014
Emmanuel Adebayor
Wedi ychydig dros hanner awr peniodd Emmanuel Adebayor i Spurs

Roedd yn ddiwrnod trychinebus i Abertawe yn y Liberty wrth iddyn nhw golli i Spurs.

Wedi ychydig dros hanner awr peniodd Emmanuel Adebayor i Spurs wedi i Christian Eriksen groesi.

Y sgôr ar yr egwyl oedd 0-1.

Yn yr ail hanner cafodd Jordi Amat o Abertawe gerdyn melyn am droseddu.

Bedair munud yn ddiweddarach rhwydodd Chico Flores yn ei gôl ei hun. 0-2 i Spurs.

Cafodd Wilfried Bony o Abertawe gerdyn melyn cyn i Adebayor daro unwaith eto, y tro hwn gyda'i droed dde.

Wedyn cafodd y cefnogwyr cartre' achos i ddathlu pan sgoriodd Bony gyda'i droed dde.

Roedd cerdyn melyn arall, y tro hwn i Danny Rose o Spurs.

Newyddion drwg i'r Elyrch, y drydedd gêm yn olynol iddyn nhw ei cholli.

Newyddion da i Spurs, yn gydradd â Lerpwl ar 43 o bwyntiau oherwydd eu pumed fuddugoliaeth mewn chwe gêm o dan y rheolwr newydd Tim Sherwood.