Gleision 13-19 Caerwysg

  • 18 Ionawr 2014
Alex Cuthbert yn gwibio cyn croesi ar gyfer cais Image copyright Arall
Image caption Alex Cuthbert yn gwibio cyn croesi ar gyfer cais

Mae'r Gleision wedi colli o chwe phwynt yng Nghwpan Heineken yn y glaw dibaid ar Barc yr Arfau.

Roedd mwy na 12,000 yn gwylio, record ers i'r tîm symud yn ôl i Barc yr Arfau.

Un tîm oedd ynddi yn yr hanner cynta' a'r Cymry'n cysgu oherwydd pwysau parhaol. Weithiau roedd amddiffyn y Gleision ar chwâl.

Dim ond wedi chwarter awr o chwarae y camodd y Cymry i mewn i hanner Caerwysg.

Don Armand o ail reng y Saeson wthiodd drosodd wedi sgarmes rydd a throsodd y Gwyddel Gareth Steenson.

Ychydig cyn yr egwyl roedd symudiad pert, Chris Dicomidis yn torri ar y dde a'r blaenasgellwr Ellis Jenkins fwydodd Alex Cuthbert redodd fel milgi a chroesi o dan y pyst.

Yn yr ail hanner roedd cic bwysig i Leigh Halfpenny chwarter awr cyn y diwedd o dair medr i mewn i hanner Caerwysg ond fe fethodd.

Ychydig cyn y diwedd anelodd y maswr Gareth Davies at y pyst ond roedd ei ymdrech yn ofer.

Wedyn ciciodd Steenson o Gaerwysg gic gosb, yr hoelen ola' yn yr arch.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.