Pryderon ynghylch ffurflen amlosgi Saesneg

  • 10 Ionawr 2014
Ffurflen
Image caption Bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ystyried darparu ffurflenni dwyieithog

Mae trefnydd angladdau wedi dweud wrth raglen Taro'r Post ar Radio Cymru fod ffurflen amlosgi ar gael yn uniaith Saesneg yng Nghymru.

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dweud y bydden nhw'n ystyried darparu ffurflenni dwyieithog.

Dywedodd Maldwyn Lewis o Rydlewis, Ceredigion: "Rhyw ddwy flynedd yn ôl fe ges i ymateb gan deulu.

"Roedd aelod o'r teulu oedd yn annwyl iawn iddyn nhw wedi marw, rhywun oedd wedi ymgyrchu'n frwd dros y Gymraeg ac roedden nhw eisiau gwneud y cais am amlosgiad trwy gyfrwng y Gymraeg a wnaethon ni ffeindio allan bod hi ddim yn bosib gwneud hynny.

"Roedd hi'n orfodaeth i lenwi'r ffurflen yn Saesneg.

"Ar ddiwedd bywyd person oedd wedi gwneud cymaint dros yr iaith, roedd e'n siomedig iawn i'r teulu bod nhw'n gorfod gwneud y cais hyn trwy gyfrwng y Saesneg."

Ystyried

Dywedod llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder y bydden nhw'n ystyried darparu ffurflenni dwyieithog.

"Beth y'n ni'n siarad amdano yw Cremation Form 1 - official application - a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder sy'n gyfrifol am y ffurflen hon," meddai Mr Lewis.

"I fod yn deg â'r amlosgfeydd sydd o'n cwmpas ni - yn Aberystwyth a Pharc Gwyn yn Sir Benfro - maen nhw'n darparu'r ffurflenni ar gyfer y gwasanaeth, y miwsig a dymuniadau'r teuluoedd, mae'r ffurflenni hynny ar gael yn y Gymraeg...

"Ond y cais swyddogol am yr amlosgi - hwnnw sy'n fy mhoeni i'n fawr. Cremation Form One ... dw i ddim yn gweld hynny'n deg o gwbl ... os ar gyfer Cymru, dylen nhw barchu'r iaith Gymraeg ... a pharatoi'r ffurflen a'i derbyn hi yn Gymraeg."

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws: "Mae yna rai cyfreithiau Prydeinig yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg ac yn rhwystro'r cyhoedd yng Nghymru rhag defnyddio'r Gymraeg.

'Real'

"O dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 mae gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru.

"Er mwyn i'r statws hwn fod yn rhywbeth real sy'n golygu rhywbeth i'r dinesydd yng Nghymru rhaid i lywodraethau Cymru a Phrydain adolygu'r deddfau a'r mesurau sy'n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg ar frys.

"Rwyf wedi tynnu sylw Llywodraeth y DU at gyfreithiau Prydeinig sy'n trin y Gymraeg yn llai ffafriol ac sy'n rhwystro pobl yng Nghymru rhag defnyddio'r Gymraeg ers fy wythnosau cyntaf yn fy swydd fel Comisiynydd y Gymraeg ym mis Mai 2012 ac wedi ategu'r neges mewn cyfarfodydd wedi hynny.

'Pwysig'

"Wrth ddarparu tystiolaeth i'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, Comisiwn Silk, ar Fedi 11 2013 galwais am adolygu'r cyfreithiau hyn gan ystyried sut y gellid unioni'r sefyllfa a sicrhau cyfiawnder i siaradwyr Cymraeg."

Dywedodd llefarydd ar ran Y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Rydym yn derbyn pa mor bwysig yw darparu'r ffurflenni hyn mewn ieithoedd gwahanol oherwydd yr angen iddyn nhw fod yn hygyrch ac yn ddealladwy.

"Dyna pam y byddwn yn ystyried darparu ffurflenni amlosgi dwyieithog fel rhan o ymgynghoriad ar reoliadau amlosgi."

Straeon perthnasol