Gwrthdrawiad: merch fach tair oed yn yr ysbyty

Mae merch fach dair oed yn ddifrifol iawn yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad gyda cherbyd yn Nhrimsaran ger Llanelli.

Cafodd yr heddlu eu galw toc cyn 12 ac roedd y ffordd ar gau am gyfnod.

Yn wreiddiol, aed â'r ferch i Ysbyty Treforys, Abertawe, cyn iddi gael ei symud i Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans: "Fe gawson ni alwad am 11.49am oherwydd gwrthdrawiad ar Heol Llanelli yn Nhrimsaran.

"Cafodd dau ambiwlans eu hanfon."

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101.