Mark Thomas yw golygydd newydd y Daily Post

  • 7 Ionawr 2014
Mark Thomas
Mark Thomas, golygydd newydd y Daily Post yng Ngogledd Cymru

Mae cwmni papurau newydd a chyfryngau Trinity Mirror, wedi cyhoeddi y bydd yna olygydd newydd i'r Daily Post yng ngogledd Cymru erbyn diwedd y mis.

Bydd Mark Thomas, cyn olygydd y Liverpool Daily Post, yn olynu Alison Gow fel pennaeth Trinity Mirror yng ngogledd Cymru.

Fel rhan o'i swydd bydd yn gofalu am y papur dyddiol, yn ogystal â goruchwylio'r papurau wythnosol - yr Holyhead & Anglesey Mail, Bangor Mail, North Wales Weekly News a'r Caernarfon and Denbigh Herald.

Mae Papurau Gogledd Cymru yn rhan o ranbarth gogledd Cymru a gogledd Lloegr Trinity Mirror, sy'n cynnwys papurau newydd ar Lannau Mersi, Manceinion a Swydd Efrog, gyda'r pencadlys yn swyddfeydd y Liverpool Echo yn y ddinas.

Rhan o'r gymuned

Yn mis Rhagfyr, cyhoeddod Trinity Mirror eu bod yn cau papur newydd blaenorol Mr Thomas, y Liverpool Post, y Liverpool Daily Post gynt, wedi 148 mlynedd.

Oherwydd gostyngiad yn nifer y darllenwyr, newidiodd y Liverpool Daily Post o bapur dyddiol i un wythnosol, sydd erbyn hyn ond yn cael ei gyhoeddi ar y rhyngrwyd.

Meddai Mr Thomas: "Dwi'n llawn cyffro wrth dderbyn y swydd yma. Mae'r Daily Post yng Nghymru yn debyg i'r (Liverpool) Echo yn Lerpwl, yn rhan o galon ac enaid y gymuned.

"Fel un sydd wedi ymdrin â gogledd Cymru wrth ohebu i'r Press Association ac wedi treulio nifer o wyliau hapus yno yn fy mhlentyndod, mae gen i lawer o feddwl o'r ardal."

'Sefyllfa gref'

Ychwanegodd: "Hefyd dwi'n adnabod nifer o'r tîm golygyddol yno, wedi cyfarfod a gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd.

"Mae Alison yn gadael y Daily Post mewn sefyllfa gref ac ar ôl tristwch yr wythnosau diwethaf i mi, mae hyn yn ddechrau gwych i 2014."

Dechreuodd Mr Thomas ei yrfa fel gohebydd i'r Wirral News Group cyn mynd ymlaen i weithio i'r Press Association fel gohebydd Gogledd Lloegr.

Tra'n gweithio i Trinity Mirror bu'n Olygydd Gohebu Ymchwiliol. Mae hefyd wedi ysgrifennu llyfr ar lofruddiaeth James Bulger.

Bydd Alison Gow yn symud i fod yn Olygydd Datblygiadau Newydd Digidol ar draws papurau rhanbarthol y cwmni.

Yn ystod ei dwy flynedd wrth y llyw yng ngogledd Cymru, mae nifer o newidiadau wedi'u cyflwyno i batrymau gwaith, a chafodd nifer o swyddi gohebu eu colli ym mis Mawrth 2013.