Teyrngedau i sylfaenydd WWF Cymru, Morgan Parry, sydd wedi marw

Morgan Parry
Dywedodd cadeirydd bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru, Peter Matthews, fod marwolaeth Mr Parry "yn golled fawr i Gymru ac, yn wir, i'r holl sector amgylcheddol."

Mae un o ffigyrau amlycaf y sector amgylcheddol yng Nghymru, Morgan Parry, wedi marw.

Roedd yn 56 oed.

Cafodd ei benodi yn gadeirydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn 2010, cyn cael ei benodi i fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2012.

Yn gynharach yn ei yrfa, roedd wedi rheoli parciau gwledig a gwarchodfeydd natur yng Ngwynedd, ac wedi sefydlu swyddfa Cymru'r WWF.

Dywedodd cadeirydd bwrdd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Peter Matthews: "Mae hon yn golled fawr i Gymru ac, yn wir, i'r holl sector amgylcheddol.

"Roedd Morgan yn ffynhonnell o nerth, synnwyr cyffredin a doethineb yn ystod ffurfio Cyfoeth Naturiol Cymru.

"Byddwn yn colli ei brofiad a'i ddealltwriaeth. Yr ydym yn cofio ei deulu'n fawr ar yr adeg drist hon."

Dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol Alun Davies AC fod Mr Parry wedi gwneud cyfraniad enfawr i amgylchedd Cymru.