Gweilch 17 - 12 Scarlets

  • 3 Ionawr 2014
Ashley Beck
Ashley Beck yn sgorio cais cyn i Biggar drosi

Aeth y Gweilch ar y blaen hanner ffordd drwy'r hanner cynta', Ashley Beck yn croesi cyn i Biggar drosi.

Dair munud cyn diwedd yr hanner ciciodd Rhys Priestland gic gosb i'r Scarlets.

Yn yr ail hanner enillodd Biggar lawer o dir oherwydd cic grefftus cyn i Natoga sgorio cais. O dan amgylchiadau anodd trosodd Biggar. Cic ryfeddol.

Methodd Priestland gic gosb cyn i Biggar lwyddo gyda'i gic yntau.

Wedyn ciciodd Priestland dair cic gosb oedd yn hwb enfawr i'w dîm.

Yn gadarn

Er gwaetha' ton ar ôl ton o ymosod roedd amddiffyn y Gweilch yn gadarn ac er i'r Scarlets reoli'r chwarae am gyfnod hir yn yr ail hanner, y Gweilch gariodd y dydd.

Cyn y gêm roedd Prif Hyfforddwr y Scarlets Simon Easterby wedi dweud bod angen iddyn nhw ennill o gofio iddyn nhw golli gartre' i'r Gweilch o 10-6 Ŵyl San Steffan.

"Mae'r hyfforddi wedi mynd yn dda a bydd y bois yn gwneud eu gore glas.

"Yn sicr, mae'r gemau hyn yn bwysig i'r chwaraewyr a'r hyfforddwyr."

Ond dim ond unwaith o'r blaen roedd y Scarlets wedi ennill ar y Liberty.

Gweilch: Sam Davies; Aisea Natoga, Ben John, Ashley Beck, Jeff Hassler, Dan Biggar, Rhys Webb, Duncan Jones, Richard Hibbard, Aaron Javis, Alun Wyn Jones (capten), Ian Evans, Justin Tipuric, Sam Lewis, Joe Bearman.

Eilyddion: Scott Baldwin; Ryan Bevington, Adam Jones, James King, Morgan Allen, Tyler Ardron, Tom Habberfield, Richard Fussell.

Scarlets: Gareth Owen; Kristian Phillips, Nick Reynolds, Scott Williams, Frazier Climo, Rhys Priestland, Rhodri Williams, Phil John, Emyr Phillips, Samson Lee, Jake Ball, George Earle, Josh Turnbull, John Barclay, Rob McCusker (capten).

Eilyddion: Kirby Myhill; Rob Evans, Jacobie Adriaanse, Johan Snyman, Aaron Shingler, Gareth Davies, Aled Thomas, Jordan Williams.

Dyfarnwr: Nigel Owens