Arweinydd BNP yn fethdalwr

Nick Griffin
Mae Nick Griffin yn bwriadu ysgrifennu llyfr am y profiad

Mae Cadeirydd y British National Party (BNP) Nick Griffin wedi cael ei wneud yn fethdalwr gan lys yn Y Trallwng.

Yn ôl arweinydd y blaid asgell-dde eithafol sydd yn Aelod o'r Senedd Ewropeaidd (ASE), ni fydd penderfyniad y llys yn ei atal rhag sefyll fel ASE eto.

Nid hwn yw'r tro cyntaf i Mr Griffin fod mewn trafferth gyda'r gyfraith - yn 1998 cafodd ei ddyfarnu'n euog am gyhoeddi neu ddosbarthu deunydd ysgrifenedig allai achosi tensiynau hiliol.

Mae Mr Griffin yn byw yn Llanerfyl ym Mhowys ac mae wedi derbyn beirniadaeth lem dros y blynyddoedd am ei safbwyntiau.

Wedi'r dyfarniad diweddaraf fe wnaeth gyhoeddi ar wefan Twitter: "Rwyf nawr yn troi'r profiad i fod o fudd i etholwyr sy'n wynebu caledi drwy ysgrifennu llyfr am ddelio gyda dyled."

Bydd yn cael ei rhyddhau o fod yn fethdalwr mewn blwyddyn yn unol â rheolau'r Ddeddf Ansolfedd.