Diffoddwyr yn streicio am y nawfed tro

Streic
Image caption Roedd streic Noswyl Nadolig

Mae diffoddwyr tân wedi bod ar streic unwaith eto ddydd Gwener wrth i'r anghydfod rhyngddynt a llywodraeth y DU barhau.

Roedd aelodau Undeb y Frigâd Dân yn gweithredu rhwng 6:30 a 8:30 yn ystod y bore.

Mae'r ffrae oherwydd newidiadau mae'r llywodraeth eisiau eu gwneud i bensiynau ac amodau gwaith diffoddwyr tân.

Dadl yr undeb yw bod natur gwaith diffoddwyr yn ei gwneud hi'n anodd iddyn nhw barhau i weithio tan 60 oherwydd safonau ffitrwydd.

Dywedodd Matt Wrack, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb: "Dyw diffoddwyr tân ddim eisiau gweld y cyhoedd yn wynebu risg ac mae'r gefnogaeth ar y llinellau piced yn awgrymu fod y cyhoedd yn deall na allwn ni sefyll yn ein hunfan a gadael i ladrad ein pensiynau ni barhau.

"Mae'n bryd i'r llywodraeth ddod yn ôl gyda chynnig mwy realistig yn lle'r cynigion anymarferol."

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn amau a oes sail cyfiawn i'r streiciau.

Mae Brandon Lewis, y Gweinidog Tân, wedi dweud bod y penderfyniad i streicio dros wyliau'r Nadolig yn "gwbl sinigaidd".

Straeon perthnasol