Alfreton 1- 0 Wrecsam

  • 1 Ionawr 2014
Akinde
Daeth gôl Akinde eiliadau cyn yr egwyl

Mae Wrecsam wedi colli'n erbyn Alfreton am yr eildro mewn chwe diwrnod.

John Akinde sgoriodd unig gôl y gêm gydag ergyd daclus o groesiad gan Daniel Meadows.

Gallai Wrecsam fod wedi dod a'r gêm yn gyfartal ond taro'r trawst wnaeth ergyd Robbie Evans ar ôl 75 munud.

Mae Wrecsam nawr yn 15fed yn y gynghrair ac mae cwestiynau'n dechrau cael eu codi am ddyfodol y rheolwr Andy Morrell.