Uwchgynghrair Pêl-droed Cymru

  • 1 Ionawr 2014
Uwchgynghrair Cymru Corbett Sports

Buddugoliaeth gynta'r flwyddyn i TNS wrth iddyn nhw drechu'r Drenewydd yn hawdd a Rhyl yn curo Prestatyn mewn gêm agos.

Y Rhyl 2 - 1 Prestatyn

Mae'r canlyniad yn erbyn Prestatyn yn rhoi'r Rhyl mewn sefyllfa wych i gyrraedd y chwech uchaf yn eu tymor cyntaf yn ôl yn yr uwch gynghrair.

Di-sgôr oedd y gêm rhwng y ddau dîm ar ddiwrnod San Steffan ac roedd hi'n edrych wedi 45 munud mai Prestatyn fyddai'n mynd a'r pwyntiau y tro hwn.

Nhw welodd fwya' o'r bêl yn ystod yr amser yno ac roedd gôl Sean Hessey'n un haeddiannol.

Ond daeth Rhyl yn ôl yn yr ail hanner gyda pherfformiad safonol ac wedi i McManus sgorio o'r smotyn ddeg munud i fewn dim ond un tîm oedd am ei hennill.

Daeth y gôl olaf chwe munud wedyn gyda gôl Steve Lewis sy'n gwneud gorffen yn y chwech uchaf yn freuddwyd anhebygol iawn i Brestatyn.

Y Seintiau Newydd 5 - 1 Y Drenewydd

Mae TNS yn ôl ar frig y gynghrair yn dilyn buddugoliaeth a hanner yn erbyn y Drenewydd.

Er bod ennill yn hawdd yn rhywbeth mae'r Seintiau wedi arfer ei wneud y tymor hwn roedden nhw'n awyddus iawn i ddysgu gwers i'r Drenewydd, fuodd mor hy â'u curo ar Ddydd San Steffan.

Chris Sargeant gafodd y gôl gyntaf yn dilyn rhediad arbennig a daeth goliau eraill y tim cartref i gyd yn yr ail hanner gan Chris Jones, Greg Draper, Matty Williams a Alex Darlington.

Jeff White gafodd y gôl gysur i'r Drenewydd sy'n parhau yn y pedwerydd safle.