Pryder am ferch ar goll

Nida Ul-Naseer
Mae heddlu'n awyddus i glywed gan Nida Ul-Naseer

Mae Heddlu Gwent yn dweud eu bod nhw'n pryderu am les menyw 18 oed sydd ar goll.

Dyw Nida Ul-Naseer o Gasnewydd heb gael ei gweld ers ddydd Sadwrn diwethaf a dyw hi heb gysylltu gyda'i theulu na'i ffrindiau ers hynny.

Mae rhyw 40 o swyddogion heddlu gyda chwn wedi bod yn chwilio amdani yn ystod dydd Mercher.

Cafodd hi ei gweld ddiwethaf yn ei chartref yn Lincoln Street am oddeutu 8pm ar Ragfyr 28 yn gwisgo jîns glas a thop du.

Mae hi'n 5 troedfedd 3 modfedd gyda gwallt hir du ac yn dod o gefndir Asiaidd-Pacistanaidd.

Mae'r Ms Ul-Naseer angen meddyginiaeth ac mae'r heddlu'n poeni y gallai fynd yn wael os na fydd hi'n ei dderbyn.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Gwent ar 101.