Lansio Cymorth i Brynu Cymru

Carl Sargeant
Mae Carl Sargeant yn disgwyl gweld mwy o dai'n cael eu codi yn sgil y fenter

Mae cynllun sy'n ei gwneud hi'n haws i bobl brynu tai yng Nghymru wedi dechrau.

Gall bobl sydd yn ennill digon i dalu'r morgais ond sydd ddim efo digon o arian fel blaendal gwneud cais i Cymorth i Brynu - Cymru ar gyfer benthyciad sydd hyd at 20% o werth yr eiddo.

Mae yna amodau ynghlwm a'r benthyciad sef bod rhaid i'r prynwr darparu'r 5% cyntaf, fod y tŷ yn un newydd a dim gwerth mwy na £300,000.

Mae cynllun o'r fath eisoes mewn grym yn Lloegr ers mis Ebrill 2013.

'Hwb i'r farchnad dai'

Nid pawb sy'n credu fod y cynllun yn syniad da gyda rhai'n awgrymu y gallai arwain at "swigen" dai, fyddai'n gweld prisiau tai'n codi mewn modd afreolus gan fod cynnydd yn y galw ond nid yn y nifer o dai sydd ar y farchnad.

Gall hyn gwneud niwed i bobl sydd yn ceisio prynu tŷ cyntaf yn y dyfodol,

Dyw'r Gweinidog Tai, Carl Sargeant, ddim yn derbyn y feirniadaeth yma - mae'n honni y bydd y cynnydd yn y galw'n arwain at fwy o dai'n cael eu hadeiladu.

"Mae'r dirwasgiad a chyfyngiadau ar fenthyca morgeisi yn golygu nad yw'n fforddiadwy i brynwyr sydd heb flaendal mawr fod yn berchen ar gartref," meddai.

"Bydd Cymorth i Brynu - Cymru yn mynd i'r afael â hyn drwy helpu mwy o bobl i gael troed ar yr ysgol dai, a'i dringo."

Ychwanegodd Mr Sargeant : "Yn ogystal â rhoi hwb angenrheidiol i'r farchnad dai yng Nghymru, bydd y cynllun yn mynd i'r afael â'r cwymp mewn adeiladu tai ledled y Deyrnas Unedig ers yr argyfwng ariannol.

"Bydd y fenter hon gan Lywodraeth Cymru yn helpu i brynu tua 5,000 o gartrefi newydd yng Nghymru dros y ddwy flynedd a hanner nesaf. Bydd yn rhoi momentwm hollbwysig i'r farchnad dai yng Nghymru a bydd hefyd yn creu swyddi gwerthfawr yn y diwydiant adeiladu."

Ni fydd llog yn cael ei godi ar y benthyciad am y pum mlynedd gyntaf ac mae'r llywodraeth yn dweud y bydd y llog wedi hynny yn rhesymol.

'Hwyr iawn'

Mae'r Ceidwadwyr wedi croesawu'r cynllun ond maen nhw'n feirniadol o'r ffaith mai dim ond rŵan mae'n cael ei weithredu.

"Mae lansiad heddiw i'w groesawu - ond mae'n hwyr iawn yng Nghymru,", Mark Isherwood.

"Penderfyniad llywodraeth y DU i sicrhau buddsoddiad cyfalaf ar gyfer y fenter yma sydd wedi gorfodi gweinidogion Llafur i weithredu er budd Cymru.

"Tra mae Lloegr a'r Alban wedi cyflwyno cefnogaeth ddechreuol i brynwyr tai'r flwyddyn ddiwethaf, fe wnaeth gweinidogion Llafur yng Nghymru fethu â gweithredu.

"Mae eu diffyg gweithredu yn destun edifar."