Dim Farteg ar arwyddion Varteg

Varteg
Ni fydd y cyngor yn prynu arwyddion newydd wedi'r cwbl

Mae Cyngor Torfaen wedi penderfynu yn erbyn cynnwys yr enw Farteg ar arwyddion ar gyfer pentref Varteg.

Roedd Comisiynydd yr Iaith Gymraeg Meri Huws wedi dweud y dylai ffurf Cymraeg yr enw ymddangos ar arwyddion os nad oedd "rheswm da".

Ond fe benderfynodd y cynghorydd oedd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad, Richard Clarke, fod rheswm da.

Pryder trigolion lleol oedd y byddai'r pentref yn destun gwawd mewn ardal lle nad oes gan 86.5% o'r boblogaeth unrhyw Gymraeg o gwbl, oherwydd y ffordd mae'n swnio ac yn edrych yn Saesneg.

Dywedodd Mr Clarke ei fod wedi selio'r penderfyniad ar ôl siarad gyda phobl leol: "Roedd mwyafrif llethol yn erbyn y cynnig ac rwyf wedi gwrando ar hynny."