Solskjær yn gwylio Caerdydd gyda Tan

  • 1 Ionawr 2014
Solskjaer
Image caption Mae'n edrych yn anochel mai Solskjær fydd rheolwr newydd yr Adar Gleision

Mae adroddiadau bod Caerdydd ar fin cyhoeddi Ole Gunnar Solskjær fel eu rheolwr.

Fe wnaeth y gŵr o Norwy hedfan i Lundain i gynnal trafodaethau gyda pherchennog y clwb Vincent Tan a'r cadeirydd Mehmet Dalman gyn y gêm yn erbyn Arsenal sy'n cael ei chynnal yn Stadiwm yr Emirates.

Roedd Solskjær i'w weld yn y dorf yn ystod y gêm yn eistedd wrth ymyl Tan a Dalman.

Image caption A fyddai Solskjær yn ddewis poblogaidd gyda'r cefnogwyr?

Er bod adroddiadau'n Norwy'n honni fod cytundeb eisoes wedi cael ei gytuno, mae'r BBC yn deall mai mewn egwyddor yn unig mae cytundeb ar hyn o bryd ond fod Solskjær bron yn sicr am arwyddo.

Mae Mehmet Dalman wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda'r cyn chwaraewr Manchester United ers i Malky Mackay gael ei ddiswyddo ddydd Gwener.

Fe wnaeth Tan yrru ei awyren breifat er mwyn cludo Solskjær i Brydain ac mae llawer yn credu y bydd y rheolwr newydd yn derbyn cyflog uchel yn ogystal â sicrwydd y bydd arian i wario ym mis Ionawr.

Straeon perthnasol