Solskjær yw rheolwr newydd Caerdydd

  • 2 Ionawr 2014
Ole Gunnar Solskjaer
Cafodd Ole Gunnar Solskjær ei gadarnhau'n rheolwr newydd ddydd Iau

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cadarnhau mai Ole Gunnar Solskjær yw eu rheolwr newydd.

Bydd y gŵr o Norwy'n cymryd yr awenau am y tro cyntaf yn erbyn Newcastle yn St James' Park ddydd Sadwrn.

Fe sydd yn llenwi sgidiau Malky Mackay a gafodd ei ddiswyddo wedi iddo ffraeo gyda pherchennog y clwb, Vincent Tan.

Fe ddaeth cadarnhad o'r penodiad mewn cynhadledd newyddion yng Nghaerdydd fore Iau.

Fe wnaeth Solskjær, 40, ddechrau ei yrfa hyfforddi yn Old Traffordd lle bu'n chwarae fel ymosodwr i Manchester United am 11 o flynyddoedd.

Solskjær
Solskjær yn ystod ei ddyddiau chwarae - yn dathlu sgorio'r gôl fuddugol yn erbyn Bayern Munich yn 1999 i ennill Cynghrair y Pencampwyr

Daeth ei foment fwyaf disglair wrth iddo ddod oddi ar y fainc i sgorio'r gôl fuddugol yng Nghynghrair y Pencampwyr ym munud ola'r gêm yn erbyn Bayern Munich yn 1999.

Roedd y dyn oedd yn cael ei adnabod fel 'Baby Faced Assassin' yn aml yn dod oddi ar y fainc ac yn newid y gêm er budd ochr goch Manceinion.

Fe ymddeolodd fel chwaraewr yn 2007 wedi iddo fethu gwella o anaf, ond arhosodd gyda'r clwb o Loegr gan gwblhau cyrsiau i fod yn hyfforddwr.

Gan ei fod yn dangos cryn botensial, cafodd y cyfle i arwain ail dîm Manchester United.

Yna fe aeth yn ôl i'r famwlad er mwyn rheoli ei gyn glwb Molde lle llwyddodd i ennill uwch gynghrair Norwy (y Tippeligaen) am y tro cyntaf yn hanes y clwb yn ystod ei dymor cyntaf.

Gwnaeth run fath y flwyddyn wedyn ac er iddo fethu ag efelychu'r gamp yn ystod ei drydydd tymor, fe enillodd y gwpan.

'Dyn lwcus'

Ole Gunnar Solskjær
Fe wnaeth Solskjær yr 'Ayatollah' ar ei ddiwrnod cyntaf fel rheolwr

Wrth gael ei benodi'n swyddogol, dywedodd Solskjaer:

"Rwy'n ddyn lwcus iawn. Rydw i wedi etifeddu tîm o chwaraewyr ifanc sy'n gweithio hynod o galed dros y clwb.

"Rydw i wedi gweld y tîm yn chwarae dros y blynyddoedd diweddar pan gawson nhw dymhorau llwyddiannus yn mynd i'r gemau ail gyfle, yna dyrchafiad a chwpwl o rowndiau terfynol yn y cwpanau.

"Nawr maen nhw yn yr Uwchgynghrair a dyma'r adeg iddyn nhw fynd allan i fwynhau eu hunain, a gobeithio mai fi yw'r dyn i'w harwain nhw.

Ole Gunnar Solskjær
Un o heriau cyntaf Solskjær fydd darbwyllo'r cefnogwyr ei fod yn deilwng i olynu Mackay

"Yn erbyn Arsenal (ddydd Mercher) fe wnaethon nhw greu problemau i un o dimau gorau Ewrop, ac rwy'n edrych ymlaen at yr her yn fawr iawn."

Cyfaddefodd hefyd fod ei gyn rheolwr Sir Alex Ferguson eisoes wedi bod ar y ffôn yn cynnig ei gefnogaeth ac ambell air o gyngor.

Yn sicr fe fydd Solskjaer wedi plesio cefnogwyr yr Adar Gleision drwy ateb cwestiwn am le bydd Caerdydd ar ddiwedd y tymor.

Dywedodd: "Yn amlwg mae aros yn yr Uwchgynghrair yn flaenoriaeth, ond yn ddelfrydol byddwn i'n hoffi gorffen yn uwch nag Abertawe yn y tabl."