Dirwy o £90 am nofio ar ddydd Calan yn Aberystwyth

  • 2 Ionawr 2014
Gan y Môr, Aberystwyth
Image caption Glan y Môr yn Aberystwyth, lle arestwyd dyn am nofio mewn môr tymhestlog

Mae dyn yn Aberystwyth wedi derbyn dirwy o £90 ar ôl iddo gael ei arestio am fod yn feddw ac afreolus wrth nofio mewn môr tymhestlog ger traeth y dref.

Beirniadwyd ymddygiad y dyn 30 oed yn hallt gan y gwasanaethau brys.

Roedden nhw o'r farn y dylai'r dyn wedi sylweddoli bod mynd i nofio am 7.30am ar ddydd Calan yn rhywbeth gwirion i wneud.

Galwyd y gwasanaethau brys ar ôl i ffrind i'r dyn gysylltu â nhw pan aeth i'r môr am 7.33am ddydd Mercher.

Paratôdd y bad achub a Gwylwyr y Glannau yn Aberystwyth i lansio, ac fe gafodd yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans eu galw i'r safle.

Meddai llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau Aberdaugleddau: "Efallai mai hwyl oedd hyn ond doedd yna ddim llawer o synnwyr wedi cael ei ddangos.

"Daeth allan o'r môr yn iach ond o'n safbwynt ni ddoedd hyn ddim yn ymddygiad synhwyrol yn y tywydd yma."

Dywedodd yr Arolygydd Julian Bowen o Heddlu Dyfed-Powys: "Derbyniwyd adroddiadau bod yna ddyn mewn trafferthion yn y môr mewn tonnau mawr."

"Daeth y person yma allan o'r môr ac fe gafodd ei arestio.

"Mae ymddwyn fel hyn yn hollol anghyfrifol ac yn ac yn gallu peryglu gweithwyr y gwasanaethau argyfwng."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.