Corff dan bont ger Y Waun: 'ddim yn amheus'

  • 31 Rhagfyr 2013
A483
Roedd yr A483 ar gau am dair awr

Mae'r heddlu wedi dweud nad yw'r amgylchiadau'n amheus wedi i gorff dynes gael ei ddarganfod o dan bont ger yr A483 yn ardal Y Waun.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r lleoliad ger cylchfan Halton am 1.30pm brynhawn Llun.

Cyhoeddwyd bod y ddynes yn farw yn y fan a'r lle. Mae'r mater yn cael ei gyfeirio at grwner gogledd-ddwyrain Cymru.

Bydd post mortem yr wythnos hon ac mae disgwyl i gwest gael ei agor yn y flwyddyn newydd.

Roedd yr A483 ar gau am dair awr tra oedd yr heddlu'n ymchwilio.