Digwyddiad yng Ngerddi Soffia

Police at the car park near the Millennium Bridge
Image caption Daeth yr heddlu o hyd i'r dyn 24 oed ger Stadiwm Swalec

Fe wnaeth yr heddlu gau rhan o faes parcio yng Ngerddi Soffia yng nghanol Caerdydd ddydd Sadwrn wedi i ddyn cael ei ddarganfod yn anymwybodol.

Bu tua chwech o swyddogion Heddlu De Cymru yn chwilio'r ardal ger Pont y Mileniwm, sy'n arwain o Afon Taf i Barc Biwt.

Cafodd y dyn 24 oed ei ganfod yn y maes parcio am tua 2:52am fore Sadwrn. Yn wreiddiol roedd yr heddlu wedi dweud mai maes parcio tafarn y Mochyn Du ydoedd, ond maen nhw bellach wedi cywiro hynny.

Does dim manylion wedi eu cyhoeddi am ei anafiadau ond mae'n derbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion, ac yn gofyn i bobl ffonio 101 os welson nhw unrhyw beth amheus rhwng 1:30am a 3:10am fore Sadwrn, Rhagfyr 28.