Chelsea 1-0 Abertawe

  • 26 Rhagfyr 2013
Eden Hazard
Eden Hazard sgoriodd unig gôl y gêm i guro Abertawe

Sgorio goliau yw problem Abertawe'n ddiweddar, a dyna oedd y rheswm am y golled arall yn Stamford Bridge ddydd Iau.

Pan aeth Chelsea ar y blaen drwy gôl Eden Hazard wedi 29 munud, roedd y tîm cartref eisoes yn hyderus o ennill.

Oherwydd anafiadau i Michu, Bony ac eraill, mae Michael Laudrup eisoes wedi cyfaddef y bydd angen iddo arwyddo ymosodwr arall yn y ffenest drosglwyddo ym mis Ionawr.

Cyn y gôl roedd Abertawe eisoes wedi gweld Chelsea'n tanio o bobman, a bu'n rhaid i Gerhard Tremmel fod ar ei orau i arbed un cynnig gan John Terry - un o dros ddwsin o gynigion gan y gleision yn yr hanner cyntaf.

Er o Bony ddod ymlaen fel eilydd a chael ambell gyfle, doedd dim yn tycio o flaen y gôl i Abertawe, ac fe ddaliodd Chelsea eu gafael ar dri phwynt.

Mae Abertawe bellach wedi disgyn o'r deg uchaf.