Damwain car: dyn ifanc yn marw

Mae'r heddlu yn apelio am lygaid dystion ar ôl i ddyn ifanc farw mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar.

Ar yr A483 rhwng y Drenewydd ac Aberriw ym Mhowys y digwyddodd y ddamwain a hynny am tua 10pm nos Sadwrn.

Mi gafodd gyrrwyr un o'r ceir ei ladd.

Mae heddlu Dyfed Powys yn credu mai bachgen 21 oed o ardal Y Trallwng oedd o ac maen nhw'n gofyn i unrhyw un a welodd Peugeot 206 gwyrdd a Kia glas ar y ffordd yr adeg hynny i gysylltu gyda nhw trwy ffonio 101.