Cam-drin: 14 cyhuddiad ychwanegol

John Allen arriving in court
Image caption Bydd John Allen, a welir yma mewn ymddangosiad llys blaenorol, yn wynebu 14 cyhuddiad ychwanegol

Mae dyn oedd wedi ei gyhuddo o gam-drin pobl ifanc mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru rhwng 1968 a 1989 wedi cael ei gyhuddo o 14 o droseddau eraill.

Wrth ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener, clywodd John Allen - 72 oed o Ipswich - y bydd yn wynebu 14 cyhuddiad arall gan gynnwys naw o ymosod yn anweddus, un o dreisio a dau o ymosodiad rhywiol difrifol.

Mae hynny'n golygu y bydd yn wynebu cyfanswm o 49 o gyhuddiadau.

Clywodd y Barnwr Merfyn Hughes bod y cyhuddiadau ychwanegol wedi cael eu gwneud yn dilyn honiadau newydd gan wyth o bobl.

Doedd dim galw ar Mr Allen i bledio yn y gwrandawiad ddydd Gwener, ond dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyniad ei fod yn bwriadu gwadu'r holl gyhuddiadau.

Bydd yn ymddangos mewn llys eto yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar Chwefror 7, 2014.

Straeon perthnasol