Bachgen fu farw mewn ysgol wedi wynebu 'cyfnodau anodd'

  • 19 Rhagfyr 2013
Derek Brundrett
Roedd Derek Brundrett yn "caru bywyd" meddai ei fam

Mae mam bachgen 14 oed fu farw mewn ysgol yn Sir Benfro wedi dweud ei fod wedi goresgyn "cyfnodau anodd" yn ei fywyd.

Cafodd Derek Brundrett ei ddarganfod yn crogi gan ddisgyblion eraill ar gaeau Ysgol Gyfun Penfro ar Ragfyr 12.

Mae ei fam, Kristina wedi rhyddhau datganiad yn dweud:

"Mi fyddwn i yn ei golli yn ofnadwy ac mi fyddwn i wastad yn ei gofio. Roedd yna lawer o gariad tuag at Derek gan ei ffrindiau a'i deulu ac mae ein calonnau wedi torri."

Ychwanegodd: "Roedd ganddo rwydwaith o bobl oedd yn ei gefnogi ac mi oedd yn gwerthfawrogi hynny yn fawr. Roedd o wedi bod trwy gyfnodau anodd yn ei fywyd ond wedi goresgyn y rheini."

Wythnos diwethaf rhoddodd prifathro'r ysgol Frank Ciccotti deyrnged iddo gan ei ddisgrifio fel disgybl "hoffus a phoblogaidd."

Mae gweithwyr wedi bod yn cynnig cefnogaeth a chwnsela i fyfyrwyr sydd wedi eu heffeithio gan ei farwolaeth.

Mae'r ysgol hefyd wedi bod yn cydweithio gyda'r crwner a swyddogion yr heddlu wrth iddyn nhw gynnal ymchwiliad.

Mae BBC Cymru yn deall bod hi yn debygol y bydd yna ymchwiliad gan y gwasanaethau cymdeithasol i'r amgylchiadau cyn marwolaeth y bachgen 14 oed.