Llywydd newydd i'r Urdd

Dr Prysor Williams
Mae'r Dr Prysor Williams yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi mai'r Dr Prysor Williams fydd Llywydd newydd y mudiad.

Mae Dr Williams, 32 oed, yn llais cyfarwydd ar donfeddi BBC Radio Cymru fel arbenigwr ym maes E.Coli a gwyddorau'r amgylchedd.

Yn fab fferm o Bandy Tudur ger Llanrwst, mae'n parhau i gynorthwyo'i rieni ar fferm Pant Manus, ac mae'n arweinydd Aelwyd Bro Cernyw o'r Urdd.

Mae'n gweithio fel darlithydd ym Mhrifysgol Bangor yn arbenigo mewn rheolaeth amgylcheddol.

Cafodd ei ethol yn Llywydd yng nghyfarfod diwethaf Cyngor yr Urdd yn Llangrannog ar Dachwedd 30, a bydd yn y swydd am flwyddyn.

Dywedodd Dr Williams: "Mae hi'n fraint fawr cael fy ethol yn Llywydd mudiad cenedlaethol ieuenctid Cymru.

"Ces dipyn o fraw wrth dderbyn yr alwad ffôn, ond mae fy nyled i i'r Urdd yn fawr ac mae hi'n anrhydedd o'r mwyaf cael rhoi rhywbeth yn ôl i'r mudiad sy'n cynnig cymaint i ieuenctid Cymru.

"Mae'r profiadau dwi wedi eu hennill o fod yn aelod o'r mudiad yn ddi-ben-draw. Ar lwyfan, mewn cwis; yng nghanol y mwd ar gae pêl droed; wrth actio, dawnsio neu chwarae'r ffŵl mewn cân actol - mae'r Urdd yn cynnig mwy na dim ond hwyl.

"Mae bod yn aelod yn golygu eich bod yn perthyn i deulu mawr ledled Cymru ac mae hynny'n aros efo chi weddill eich oes."

Yn ôl Tudur Dylan Jones, Cadeirydd Cyngor Urdd Gobaith Cymru: "Mae ymwneud Prysor Williams â'r Urdd yn dyddio yn ôl i'w gyfnod yn yr ysgol gynradd ac mae ei deyrngarwch i'r mudiad yn ei filltir sgwâr yn parhau.

"Mae ei ymroddiad yn sicrhau fod yr Aelwyd ym Mro Cernyw a'r genhedlaeth nesaf o aelodau yn cael yr un boddhad a'r budd ag y cafodd yntau.

"Mae felly'n gwbl briodol ei fod yn cael ei ethol i'r rôl hon. Rydyn ni'n ei groesawu'n gynnes fel Llywydd newydd Urdd Gobaith Cymru ac yn edrych ymlaen at gydweithio ag ef dros y flwyddyn nesaf."