Lladrad arfog ym Mhontypridd: Heddlu'n ymchwilio

lladrad arfog
Image caption Fe wnaeth y lleidr fygwth y siopwr gyda theclyn oedd yn edrych fel gwn

Mae heddlu ym Mhontypridd yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad arfog mewn siop.

Fe gerddodd dyn i mewn i'r siop 'Best-One' ar Ffordd Pwllgwaun yn y dre' tua 2:00pm ddydd Gwener, Rhagfyr 13, a hawlio arian gan y dyn y tu ôl i'r cownter.

Fe wnaeth y lleidr fygwth y siopwr gyda theclyn oedd yn edrych fel gwn, cyn dianc pan geisiodd y dyn gymryd y dryll oddi arno.

Dywedodd yr heddlu bod y dyn oddeutu 5'10" o daldra, ac yn gwisgo sgarff ddu a het dywyll i guddio'i wyneb. Roedd o'n gwisgo crys chwys llwyd, jîns glas golau a menig du.

Delweddau CCTV

Meddai'r Ditectif Arolygydd dros dro, Phil Rees: "Rwyf eisiau canmol y siopwr am ei ddewrder. Does dim amheuaeth ei fod wedi sicrhau bod y lleidr yn gadael yn waglaw.

"Rydym ni'n credu mai dyn lleol wnaeth hyn, oedd yn gyfarwydd â'r ardal.

"Mae rhywun yn gwybod mwy am hyn, ac rydym yn gobeithio y bydd y delweddau CCTV yn annog pobl i ddweud rhywbeth."

Gall unrhyw un welodd rywun yn ymddwyn yn amheus yn yr ardal y diwrnod hwnnw, neu sydd gan wybodaeth am y person sy'n gyfrifol, gysylltu â Heddlu'r De drwy ffonio 101, neu drwy ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.