7,000 yn llai yn ddi-waith yng Nghymru

  • 18 Rhagfyr 2013
Canolfan waith
Mae yna 112,000 o bobl yn ddi-waith yng Nghymru ar hyn o bryd

Mae diweithdra yng Nghymru wedi gostwng, sy'n golygu nad yw bellach yn uwch na'r cyfartaledd ar draws y DU.

Mae'n golygu fod 112,000 o bobl heb waith yng Nghymru erbyn hyn - gostyngiad o 7,000 o'i gymharu â'r ffigurau a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd.

Mae hynny'n cyfateb i 7.4% o'r boblogaeth sydd rhwng 16-64 oed, sydd yr un raddfa â'r cyfartaledd ar draws y DU.

Mae diweithdra wedi gostwng mewn rhannau eraill o'r DU, heblaw am Ogledd Iwerddon a Llundain. Ar draws y DU, mae nifer y di-waith ychydig yn llai na 2.4 miliwn.

Mae nifer y bobl sy'n hawlio budd-dal wrth chwilio am swyddi yng Nghymru wedi gostwng 1,300 ers mis Hydref - ac mae'r ffigwr 12,700 yn is nag yr oedd yr amser yma'r llynedd.

Mae diweithdra ymhlith pobl ifanc hefyd wedi gostwng 900 yn ystod y mis diwetha'.

'I'r cyfeiriad cywir'

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David Jones AS: "Mae nifer y bobl sydd mewn gwaith yng Nghymru wedi cynyddu mwy nag yn unrhyw ranbarth arall yn y DU, ac mae lefel segurdod economaidd wedi gostwng yn fwy nag yng ngweddill y DU.

"Mae'r ffigyrau hyn, ynghyd â'r newyddion fod Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn enillion wythnosol o holl ranbarthau'r DU dros y flwyddyn ddiwetha', yn dangos ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir tuag at adferiad economaidd cryf. Mae'n amlwg mai'r sector preifat sy'n arwain y twf hwn.

"Ond does dim lle i segura. Roedd y cyhoeddiad yr wythnos hon am ddiswyddiadau posib yn ffatri Sharp yn Wrecsam yn ein hatgoffa fod yna sialensiau gwirioneddol o'n blaenau.

"Mae'n rhaid sicrhau ein bod yn cynnal perthynas agos gyda busnesau ar lawr gwlad yng Nghymru ac yn canolbwyntio ar wneud yn sicr bod yr amodau cywir yn bodoli iddynt greu swyddi, i gynnal y twf cyflogaeth hwn."

'Uwch nag erioed'

Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r ffigyrau heddiw yn dangos unwaith eto fod Cymru'n perfformio'n well na'r DU ar gyfartaledd, ac mae'r ffigyrau diweithdra ymhlith yr ifanc yn hynod o galonogol.

"Mae nifer y bobl sydd mewn gwaith yng Nghymru'n uwch nag erioed nawr.

"Rydym yn gwybod bod nifer o bobl yn wynebu amser caled dros y gaeaf ond mae'r newyddion heddiw'n dangos ein bod yn gwneud y penderfyniadau cywir i'n pobl ifanc."

Yn ôl llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar fusnes, Eluned Parrott:

"Mae'r economi ar i fyny ac mae pobl yn dechrau teimlo'r effaith, mae ffigyrau cyflogaeth yn parhau i symud i'r cyfeiriad cywir, ond mae 'na ffordd bell yn dal i fynd.

"Ond mae Llywodraeth Cymru angen gwneud mwy ar frys i helpu pobl ifanc i ddod o hyd i waith sefydlog. Dim ond cwta hanner y rhai sy'n rhan o gynllun Twf Swyddi Cymru'r llywodraeth sy'n dod o hyd i waith, sy'n dangos fod gan Llywodraeth Lafur Cymru ffordd bell i fynd i helpu pobl ifanc heddiw."