Addysg: Angen 'rheolwyr proffesiynol'

  • 18 Rhagfyr 2013
Dysgu dosbarth

Mae aelod cynulliad wedi galw am newid sylweddol yn y math o bobl sydd eu hangen i arwain ysgolion Cymru yn y dyfodol.

Gyda'r pwysau a'r cyfrifoldebau ar ysgwyddau penaethiaid yn dal i gynyddu, ac wrth i fwy o siroedd symud tuag at ffederaleiddio ysgolion, dywedodd Simon Thomas wrth raglen Manylu ar BBC Radio Cymru y dylid edrych o ddifrif ar benodi rheolwyr proffesiynol, nid yn annhebyg i'r rhai a geir mewn byrddau iechyd.

Mr Thomas yw llefarydd Plaid Cymru ar addysg.

Dangosodd ymholiadau gan y rhaglen ymhlith awdurdodau addysg Cymru bod nifer cynyddol o benaethiaid yn gorfod cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith oherwydd straen y swydd.

Dyma'r rheswm, yn ôl Rebecca Williams o undeb UCAC, pam bod cyn lleied o ymgeiswyr bellach ar gyfer swyddi penaethiaid.

Absenoldeb

O'r 10 cyngor a atebodd gwestiynnau Manylu, un yn unig oedd heb weld penaethiaid yn gorfod cymryd cyfnod o absenoldeb oherwydd straen seicolegol dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd Robert Hill - ymgynghorydd addysg annibynnol wnaeth baratoi adroddiad manwl i Lywodraeth Cymru ar y gyfundrefn addysg - does dim digon o benaethiaid o'r safon uchaf ar gael yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.

Mae dau o undebau athrawon Cymru, UCAC a'r NAHT, wedi gweld cynnydd yn nifer y penaethiaid sydd wedi bod yn absennol o'u gwaith oherwydd straen dros y blynyddoedd diwethaf.

Hwn, yn eu barn nhw, yw un o'r prif resymau bod nifer helaeth o swyddi penaethiaid yn gorfod cael eu hail hysbysebu oherwydd diffyg ymgeiswyr.

Yn ôl yr Aelod Cynulliad Simon Thomas, mae angen newid y system bresennol o reoli, ac mae'n crybwyll y dylid ystyried y syniad o benodi rheolwyr proffesiynol - fel sy'n digwydd ym maes iechyd.

Diffyg Athrawon

Yn gynharach eleni, gofynnodd BBC Cymru i gynghorau Cymru faint o swyddi penaethiaid ysgolion gafodd eu hysbysebu fwy nag unwaith yng Nghymru, a dangosodd y ffigyrau bod diffyg ymgeiswyr.

Yn ôl swyddog polisi Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC), Rebecca Williams, straen yw'r rheswm mwyaf dros hyn.

Dywedodd wrth raglen Manylu: "Rydym yn ymwybodol bod y straen ar benaethiaid, yn enwedig dros y blynyddoedd diwethaf yma, yn gallu achosi problemau iechyd sy'n deillio o straen.

"Ry' ni wedi gweld bod nifer o swyddi prifathrawon wedi gorfod cael eu hysbysebu oherwydd diffyg ymgeiswyr... ac rydym yn ymwybodol bod cryn ganran o'r penaethiaid presennol yn agosáu at oedran ymddeol a bod 'na ddiffyg mewn cenhedlaeth newydd i'w holynu.

"Felly poeni ydym ni fod y broblem yn mynd i fynd yn waeth."

Mae Iwan Pritchard yn bennaeth ar ysgol uwchradd Gymraeg Bro Edyrn yng Nghaerdydd. Yn ei farn ef, er bod nifer o athrawon a dirprwyon gyda'r cymhwyster CPCP sydd ei angen i fod yn brifathro, dyw e ddim yn synnu bod nifer o ddirprwyon bellach ddim eisiau dringo'r ysgol oherwydd y pwysau gwaith.

"Gyda'r cynnydd sydd wedi bod yn rôl y dirprwy bellach, mae nifer o bobl efallai yn y gorffennol fyddai wedi ystyried dod yn bennaeth yn ailystyried oherwydd... bod nifer o ddirprwyon yn gweld yr hyn mae penaethiaid yn mynd drwyddo fe, ac yn gweld y pwysau sydd arnyn nhw, ac yn penderfynu 'Na dwi ddim eisiau mynd dim pellach na hyn'."

Rheolwyr neu athrawon?

Un syniad sydd yn barod wedi dechrau cael ei ymestyn ar draws Cymru yw'r syniad o gyfuno ysgolion mewn clwstwr neu ffederasiwn.

Gyda'r strwythur yma, byddai un pennaeth yn rheoli mwy nag un ysgol - ac, yn ôl un sydd o blaid y syniad yn llwyr, byddai'r ffurf yma yn cryfhau arweinyddion ar draws Cymru.

Mae'r arbenigwr addysg Robert Hill, yn amau a oes digon o athrawon gyda sgiliau arwain da i sicrhau bod un ar gael ar gyfer pob ysgol ar draws Cymru.

Ond mae'n dweud y byddai creu clwstwr o ysgolion yn ysgafnhau'r baich ar benaethiaid.

Mae Simon Thomas o blaid y syniad ond, yn ei farn ef, mae angen newid radical yn y math o berson fydde'n cael ei benodi ar frig y system yma.

"A oes modd cyflwyno mwy o reolwyr, fel bod y rheolaeth yng ngofal bobl broffesiynol, sydd yn caniatáu i'r arweiniad addysgol fod yn nwylo rhywun arall," meddai.

Bydd rhaglen Manylu'n cael ei darlledu am 2:00yh ar ddydd Mercher, Rhagfyr 18 ar BBC Radio Cymru.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.