Cyngor Sir wedi torri rheolau wrth ariannu'r Scarlets?

Parc y Scarlets Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cafodd y Scarlets filiynau o bunnau i adeiladu eu stadiwm newydd

Mae Arbenigwr ar gyllid Ewropeaidd wedi dweud wrth BBC Cymru y gallai Cyngor Sir Caerfyrddin fod wedi torri rheolau yn y ffordd maen nhw wedi rhoi cymorth ariannol i glwb rygbi'r Scarlets.

Yn ôl y Comisiwn Ewropeaidd, dyw'r Cyngor ddim wedi cyhoeddi'r taliadau i'r clwb.

Ond mae'r cyngor sir yn dweud eu bod nhw wedi cael cyngor cyfreithiol sy'n nodi nad yw'r rheolau hynny'n berthnasol.

Dywed Martyn Jeffries, sy'n ymgynghorydd ar gyllid Ewropeaidd, ei bod yn debygol iawn bod rheolau cymorth gwladol yn berthnasol, ac felly dylid fod wedi dilyn proses weinyddol.

Mae'r cyngor, sydd wedi rhoi dros £20 miliwn i'r clwb mewn ffyrdd gwahanol ers 2007 yn dweud bod eu cyfreithwyr wedi eu cynghori nad oedd y rheolau yn berthnasol.

Grantiau

Ym mis Tachwedd 2008, agorodd stadiwm newydd y Scarlets i gefnogwyr am y tro cyntaf.

Cost adeiladu'r stadiwm a'r cyfleusterau cysylltiedig oedd £25.4 miliwn, a daeth £18.3 miliwn o hwn gan Gyngor Sir Caerfyrddin drwy ffynonnellau gwahanol.

Y cyngor sy'n berchen ar y tir y mae'r stadiwm wedi ei adeiladu arno. Er bod y clwb wedi cael les am 150 o flynyddoedd, nid oes rhaid iddyn nhw dalu rhent ar y safle heblaw bod eu hincwm yn codi dros lefel penodol.

Yn gynharach eleni, cafodd un o feysydd parcio'r stadiwm, oedd ar les i'r clwb, ei werthu am £850,000.

Cafodd y Scarlets £600,000 o'r arian, er mai'r cyngor oedd yn berchen ar y tir. Cafodd y rhan fwyaf o hynny ei roi fel "costau a ganiateir drwy werthu".

Ym mis Hydref, cytunodd y cyngor i ailstrwythuro benthyciad o £2.4 miliwn yr oedd wedi ei roi i'r clwb.

Yn wreiddiol, roedd y Scarlets yn talu llog o 7% ar y benthyciad hwnnw, mae'r cytundeb newydd yn golygu eu bod yn talu 4% gyda'r potensial i hynny godi.

Mae disgwyl i'r arian gael ei ad-dalu erbyn 2023, ond fe all cytundeb newydd olygu bod y cyngor yn ennill tua £800,000 yn llai na fydden nhw petai'r amodau gwreiddiol yn dal mewn grym.

Toriadau'r cyngor

Mae rhai cynghorwyr lleol wedi beirniadu bwriad y cyngor i dorri gwasanaethau sydd ddim yn statudol er mwyn arbed arian dros y tair blynedd nesaf.

Roedd hyn yn cynnwys trosglwyddo cyfrifoldeb am barciau, parciau chwarae a chaeau chwarae i glybiau lleol.

Roedd rhybudd hefyd y byddai costau yn cynyddu'n sylweddol os nad oedd cyfrifoldeb yn cael ei roi i rywun arall.

Mae'r sefyllfa yn bryder i Jonathan Price, Cadeirydd Clwb Rygbi Porth Tywyn: "Mae'n costio tua £13 am bob gêm ar hyn o bryd, a £5 am bob sesiwn hyfforddi.

"Ond rydym ni wedi cael gwybod y bydd cynnydd bob blwyddyn os na fyddwn ni'n cymryd cyfrifoldeb gan y cyngor sir.

"Erbyn diwedd 2016 bydd rhaid i ni dalu £140 bob gêm, sy'n gynnydd aruthrol.."

Hawlio arian yn ôl?

Dywedodd yr arbenigwr ar gyllid Ewropeaidd, Martyn Jeffries: "Un o brif amcanion y Comisiwn Ewropeaidd yw creu un farchnad agored i alluogi i nwyddau, masnach a phobl symud yn rhydd, ac un egwyddor o hynny yw na ddylai'r sector cyhoeddus ddefnyddio adnoddau cyhoeddus prin er mwyn ariannu neu gefnogi'r sector cyhoeddus.

"Mae pedwar prawf yn ymwneud â'r cyllido...y pedwar yw:

  • A ydy'n cael ei ddarparu gan adnoddau cyhoeddus? Felly yn yr achos yma Cyngor Sir Caerfyrddin.
  • A yw'n fater o ddewis a dethol? Dydw i ddim yn meddwl bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnig hwn i Gleision Caerdydd, er enghraifft.
  • A yw'n cynnig mantais gystadleuol? Wel mae grant o filiynau yn mynd i gael effaith ar eu hyfywdra masnachol.
  • Ac yn olaf, fyddai'r grant yn cael effaith ar fasnachu rhwng gwledydd yr undeb? Mae'r Scarlets yn cystadlu yn Ewrop felly ydy, mae'n sicr o gael effaith ar fasnachu rhwng gwledydd."

Yn ôl Mr Jeffries, os yw'r achos i roi arian yn cwrdd â'r gofynion yma, mae'n cyfri fel cymorth gwladol, ac mae'n rhaid dilyn rheolau penodol.

"Mae angen trywydd archwilio ac os yw cymorth yn cael ei roi mae angen i'r comisiwn gael gwybod er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd a'r rheolau.

"Os nad oes trywydd archwilio, yna maen nhw'n torri'r rheolau."

Os oes rheolau wedi eu torri, dywedodd Mr Jeffries bod gan y Comisiwn yr hawl i orfodi'r corff a roddodd yr arian - Cyngor Sir Gaerfyrddin yn yr achos yma - i hawlio'r arian yn ôl.

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi dweud wrth BBC Cymru nad ydyn nhw wedi cael eu hysbysu o'r taliadau mae'r cyngor wedi'u rhoi i'r clwb. Ond maent wedi cadarnhau bod ganddyn nhw'r grym i orfodi'r clwb i dalu peth o'r arian yn ôl petai nhw'n derbyn cwyn, yn ymchwilio ac yn darganfod fod canllawiau wedi'u torri.

'Amherthnasol'

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin: "Cafwyd cyngor cyfreithiol annibynnol fel rhan o'r penderfyniad yn 2007.

"Gwnaed yn glir nad oedd cymorth gwladol yn berthnasol yma oherwydd y ffordd cafodd y cytundeb gwreiddiol ei greu.

"Er i'r cwestiynau yma gael eu gofyn sawl gwaith yn y chwe blynedd diwethaf, rydym yn parhau yn hyderus am y cyngor, ac wedi cadarnhau hyn sawl tro."

Nid oedd y cyngor am gadarnhau a gafodd cyngor cyfreithiol ei roi i'r clwb ar ôl 2007 ai peidio.

Mae cynghorwyr lleol wedi datgan pryder am y sefyllfa, ac ysgrifennodd un at y gweinidog llywodraeth leol, Lesley Griffiths.

Dywedodd hithau nad oedd yn addas i wneud sylw.

Mae sefyllfa ariannol y Scarlets wedi ei gyhoeddi, gyda'r cyfrifon diwethaf yn dangos colledion o dros £1 miliwn a dyledion o dros £3 miliwn.

Mae hefyd yn dangos ansicrwydd am allu'r clwb i barhau fel y mae hi.

Er bod BBC Cymru wedi cysylltu gyda'r Scarlets, does dim ymateb wedi dod ganddynt hyd yma.

Straeon perthnasol