Norwich 1 - 1 Abertawe

Gary Hooper
Mae Abertawe yn y 10fed safle wedi'r gêm gyfartal yn erbyn Norwich

Mae Abertawe wedi ennill pwynt wedi gêm gyfartal yn erbyn Norwich, ond roedd ergyd i dîm Michael Laudrup, pan gafodd Nathan Dyer ei gario o'r cae.

Dyer oedd y cyntaf i rwydo, wrth iddo wneud y mwyaf o gamgymeriad Sebastian Bassong i saethu dros John Ruddy yn y gôl wedi 12 munud.

Ond sgoriodd Gary Hooper ei bedwerydd gôl mewn chwe gêm, ergyd wych o 25 llath i ddod a Norwich yn gyfartal.

Roedd rhaid i Dyer gael ei gario o'r cae yn fuan wedyn, wedi iddo frifo ei ffêr wrth ymladd am y bêl hefo Bassong.

Cafodd ei gludo i'r ysbyty a'r gred yw ei fod wedi torri ei ffêr.

Norwich gafodd y gorau o'r cyfleoedd wedi'r egwyl, gyda Michael Turner yn penio yn erbyn y bar, ac roedd rhaid i Michel Vorm fod yn effro i gadw ergyd Hooper allan.

Mae'r canlyniad yn cadw Abertawe yn y 10fed safle yn yr Uwch Gynghrair, pedwar pwynt y tu ôl i Southampton yn y nawfed safle.

Dywedodd y rheolwr ei fod yn pryderu am anaf Nathan Dyer.

"Iechyd rhywun yw'r peth pwysicaf. Rydym yn gwybod bod anafiadau yn digwydd mewn pêl droed. Gobeithio fy mod i'n anghywir ond roedd hwn yn edrych yn fwy difrifol," meddai.

"Bydd rhaid i ni aros am x-ray a sgan, a gobeithio nad ydy o mor ddrwg â hynny."

Norwich 1 - 1 Abertawe

Ruddy Whittaker Olsson Howson Turner Bassong Redmond (Murphy - 83' ) Johnson Elmander (Becchio - 76' ) Hooper Fer Vorm Rangel Davies Shelvey Amat Williams Dyer (Pozuelo - 44' ) Cañas Michu (Bony - 75' ) De Guzmán Hernández (Lamah - 83' )