Nelson Mandela wedi ei gladdu yn Ne Affrica

  • 15 Rhagfyr 2013
Angladd Mandela
Cafodd Nelson Mandela ei gladdu mewn seremoni breifat yn Qunu
Jacob Zuma
Yn gynharach, diolchodd Jacob Zuma i Mandela am fod yn arweinydd i Dde Affrica mewn cyfnod anodd
Angladd Mandela
Roedd ei deulu a'i ffrindiau yn bresennol ar gyfer y seremoni
Angladd Mandela
Aeth tri hofrennydd o Awyrlu de Affrica heibio yn hedfan baneri'r wlad
Angladd Mandela
Yn Johannesburg mae pobl wedi rhoi blodau a negeseuon wrth gartref Mr mandela

Mae Nelson Mandela wedi ei gladdu mewn seremoni ym mhentref Qunu yn nhalaith Easter Cape, ble y cafodd ei fagu.

Roedd ei wraig weddw, Graca Machel, ac Arlywydd De Affrica, Jacob Zuma yn y seremoni draddodiadol.

Yn gynharach, dywedodd Mr Zuma bod angen i bobl De Affrica barhau gyda'i waith yn y dyfodol.

Bu farw Mr Mandela ar Ragfyr 5, yn 95 oed.

'Ffarwel fy annwyl frawd'

Cafodd arch Mr Mandela, arlywydd du cyntaf De Affrica, ei gario gan aelodau o'r fyddin at babell fawr gafodd ei godi yn arbennig.

Roedd ei deulu a'i ffrindiau yn y seremoni gwladol, i glywed teyrngedau gan nifer o siaradwyr.

Dywedodd un cyfaill agos, Ahmed Kathrada, fuodd yn y carchar gyda Mandela ar Ynys Robben, ei fod wedi colli "brawd hyn".

Siaradodd am y misoedd diwethaf, a sut yr oedd wedi dal yn llaw Mandela y tro olaf iddo ei weld.

"Ffarwel fy annwyl frawd, fy mentor, fy arweinydd," meddai.

Siaradodd dau o wyrion Mandela hefyd.

Rhoddodd Ndaba deyrnged, a siaradodd Nandi am ei thaid fel disgyblwr.

"Byddwn yn dy fethu di... dy lais caled pan dwyt ti ddim yn bles gyda'n ymddygiad. Byddwn yn methu dy chwerthin."

Seremoni breifat

Angladd Mandela
Cyrhaeddodd yr arch gydag aelodau o'r fyddin

Yn gwrando ar y teyrngedau oedd Graca Machel, ei wraig weddw, a'i ail wraig Winnie-Madikizela Mandela.

Eisteddodd y ddwy rhwng Arlywydd De Affrica, Jacob Zuma.

Dywedodd: "Mae hi wedi bod yn wythnos hir a phoenus i ni.

"Tra bod y daith hir at ryddid wedi gorffen yn gorfforol, mae ein taith ni yn parhau."

Wedi'r seremoni, cafodd yr arch ei gario i fyny'r bryn, i gynnal y seremoni breifat lle cafodd Mandela ei gladdu.

Aeth tri hofrennydd o Awyrlu de Affrica heibio yn hedfan baneri'r wlad wrth i'r arch gael ei roi yn y bedd.

Roedd aelodau o'r ANC yn bresennol, tra bod nifer o ffigyrau blaenllaw yn yr ymgyrch yn erbyn apartheid hefyd wedi bod yn y seremoni.

Wrth i'r seremoni ddigwydd yn Qunu, cafodd 21 o ynnau mawr eu tanio er cof am Mr Mandela yn Pretoria.