Cyn reolwr yn dweud bod y GIG wedi ei 'ddifetha'

  • 15 Rhagfyr 2013
Russell Hopkins
Mae Mr Hopkins wedi bod yn lawfeddyg ac yn gadeirydd ar y BMA yng Nghymru

Mae cyn reolwr yn ysbyty mwyaf Cymru wedi beirniadu'r Gwasanaeth Iechyd, gan ddweud bod gwleidyddion a rheolwyr wedi ei "ddifetha".

Mae Russell Hopkins, oedd yn arfer rheoli Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, wedi dioddef difrod i'w bledren a'r nerfau yn dilyn llawdriniaeth yn y ddinas yn 2011.

Dywedodd ei fod wedi penderfynu tynnu sylw at y mater oherwydd bod bywydau cleifion "mewn perygl".

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi ymddiheuro i Mr Hopkins am yr hyn y mae ef a'i deulu wedi dioddef.

'Dim sylw'

Mae Mr Hopkins, sydd bellach yn byw yn Nhrefdraeth, Sir Penfro, yn gyn lawfeddyg yn Ysbyty athrofaol Cymru, ac yn gyn gadeirydd y Gymdeithas Feddygol yng Nghymru (BMA).

Mae'n un o wyth ymgynghorydd ysgrifennodd at bapur newydd y Daily Telegraph yn galw am well staffio ar wardiau'r GIG ar benwythnosau.

Cafodd lawdriniaeth ar ei glun mewn "ysbyty cysylltiedig" yng Nghaerdydd yn 2011, ac mae'n dweud bod anesthetig ar ei asgwrn cefn wedi achosi gwaedu yng ngholofn ei gefn.

"Pan mae pethau fel yma yn digwydd mae'n rhaid lleihau'r pwysau o fewn wyth i 12 awr - yn sicr o fewn 24 awr - er mwyn rhyddhau'r pwysau," meddai wrth BBC Cymru.

"Ni chefais weld meddyg hyn er bod y nyrsys wedi dweud bod rhywbeth o'i le.

"Doedd neb wedi talu sylw tan i fy merch - sy'n ymgynghorydd ysbyty - ffonio o Lundain a gofyn 'beth sy'n bod gyda fy nhad?'"

Oedi

Dywedodd Mr Hopkins bod pedwar diwrnod wedi pasio cyn iddo weld ymgynghorydd, a bod niwed wedi ei achosi yn y cyfnod yna.

Erbyn iddo weld ymgynghorydd, mae'n honni bod y meddyg hwnnw wedi dweud "nad oedd pwynt rhoi'r driniaeth bellach".

O ganlyniad, mae Mr Hopkins yn dweud ei fod wedi dioddef problemau wrinol.

Roedd Mr Hopkins yn un o wyth meddyg ysgrifennodd at bapur newydd y Telegraph

Yn ôl Mr Hopkins, mae problemau yn digwydd drwy'r GIG oherwydd bod rhai ymgynghorwyr "ddim yn edrych ar ôl cleifion yn y modd yr oedden nhw'n arfer gwneud gan fod system amserlen mewn grym - bydd y rheolwyr yn talu am hynny, ond dim byd arall."

Ychwanegodd bod llawer o feddygon wedi rhoi'r gorau i fynd i ymweld â'u cleifion wedi llawdriniaeth, gan adael i feddygon ifanc fynd yn eu lle.

Dywedodd Mr Hopkins bod meddyg ifanc wedi ymweld ag ef ac nad oedd wedi llwyddo i weld ei broblem cefn.

"Dydw i ddim yn chwerw, gan ad ydw i'n ddyn fel yna," meddai.

"Ond rydw i wedi bod yn flin hefo'r gwasanaeth iechyd ers cyfnod. Mae'r gwleidyddion wedi ei ddifetha."

'Rhwystredig'

Yn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Fel bwrdd iechyd, rydym yn deall pa mor rhwystredig ydyw i gleifion pan nad yw pethau yn mynd fel y dylen nhw, oherwydd rydym ni'n rhannu'r un teimladau.

"Rydym yn gweithio yn galed iawn gyda'n staff a thimau llawdriniaeth i weithredu system lle bod gweithwyr profiadol ar gael bob tro.

"Gallwn ni ddim gwneud unrhyw sylw manwl am achos Mr Hopkins, ond rydym yn ymwybodol o'i bryderon ac wedi cysylltu gydag ef ar y pryderon yma.

"Hoffwn gymryd y cyfle yma i gynnig ein hymddiheuriadau unwaith eto i Mr Hopkins a'i deulu am yr hyn maent wedi ei brofi."

Mae Mr Hopkins yn dweud bod "y niwed sydd wedi ei wneud i'r gwasanaeth dros yr 20 mlynedd diwethaf wedi peryglu cleifion".

Newidiadau

Mae'n dweud bod angen mwy o hyfforddiant i israddedigion ar y wardiau, yn dilyn meddygon a nyrsys wrth eu gwaith.

Hoffai weld newid yn y rheolau amser gweithio, sydd yn ei farn o yn gallu arwain at ddiffyg gofal.

Mae llywodraeth Cymru wedi dweud bod byrddau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wedi cynllunio er mwyn delio gyda'r cynnydd mewn galw dros y gaeaf am y tro cyntaf eleni.

Daw'r llythyr wrth i gynllun newydd gael ei gyflwyno yn Lloegr sy'n golygu bydd rhaid cael meddygon profiadol ar gael saith niwrnod yr wythnos.

Mae'n rhan o gynllun ehangach gan y gwasanaeth iechyd yn Lloegr i fynd i'r afael a chyfraddau marwolaeth uwch ar benwythnosau.

Mae'r newidiadau, gafodd eu cynnig gan yr Athro Syr Bruce Keogh, yn cael eu gweithredu mewn adrannau gofal brys dros y dair blynedd nesaf.

Daw'r cynllun wedi ymchwiliad i mewn i ofal y GIG yn Lloegr oedd yn dangos bod nifer uwch o farwolaethau ar benwythnosau.