Scarlets 13 - 31 Clermont Auvergne

Ken Owens Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Clermont Auvergne wedi cymryd cam at sicrhau eu lle yn rownd nesaf y Cwpan Heineken gyda buddugoliaeth yn erbyn y Scarlets.

Cafodd Clermont eu curo yn rownd derfynol y gystadleuaeth y tymor diwethaf, ond llwyddon nhw i sicrhau pwynt bonws mewn tywydd ofnadwy brynhawn Sadwrn.

Daeth eu cais cyntaf wedi ond 34 eiliad, wrth i'r asgellwr Napolioni Nalaga roi'r dechrau gorau posib i'r tîm o Ffrainc.

Daeth ychydig o wrthwynebiad wrth i Gareth Maule groesi'r linell i'r Scarlets, ond yr ymwelwyr chwaraeodd orau am y rhan fwyaf o'r gêm.

Cafodd Clermont gais cosb wedi i'r sgrym gael ei ddymchwel nifer o weithiau, yna aeth Fritz Lee dros y linell yn fuan wedyn.

Nalaga unwaith eto gafodd yr olaf, ei chweched mewn dau dymor yn erbyn y Scarlets.

Scarlets 13 - 31 Clermont Auvergne

Scarlets: Liam Williams; Nick Reynolds, Gareth Maule, Scott Williams, Jordan Williams; Rhys Priestland, Gareth Davies, Phil John (capt), Ken Owens, Samson Lee, Jake Ball, George Earle, Josh Turnbull, John Barclay, Rob McCusker.

Eilyddion: Emyr Phillips, Rob Evans, Rhodri Jones, Richard Kelly, Jo Snyman, Rhodri Williams, Aled Thomas, Adam Warren.

ASM Clermont Auvergne: Jean-Marcel Buttin; Sitiveni Sivivatu, Aurelien Rougerie (capt), Regan King, Naipolioni Nalaga; Mike Delany, Thierry Lacrampe; Thomas Domingo, Benjamin Kayser, Clément Ric, Jamie Cudmore, Julien Pierre, Julien Bonnaire, Julien Bardy, Damien Chouly

Eilyddion: Ti'i Paulo, Raphael Chaume, Vincent Debaty, Nathan Hines, Fritz Lee, Ludovic Radoslavjevic , Brock James, Noa Nakaitaci.

Straeon perthnasol