Caerdydd 1 - 0 West Brom

Peter Whittingham Image copyright AP
Image caption Peter Whittingham sgoriodd y gôl hollbwysig i Gaerdydd

Roedd gôl gan Peter Whittingham yn yr ail hanner yn ddigon i symud Caerdydd bedwar pwynt uwchben y timau wrth waelod yr Uwch Gynghrair brynhawn Sadwrn.

Caerdydd gafodd y cyfleoedd gorau yn gynnar yn y gêm, wrth i'r glaw dywallt yn Stadiwm y Ddinas.

Aeth Peter Odemwingie a Steven Caulker yn agos at rwydo yn yr hanner cyntaf, ond doedd yr Adar Gleision methu a manteisio cyn yr egwyl.

Gary Medel oedd arwr Caerdydd wedi'r egwyl, gan benio ergyd Gareth McAuley oddi ar y linell.

Daeth y gôl hollbwysig yn fuan wedyn, gyda Whittingham yn penio heibio Boaz Myhill o bêl Craig Noone.

Dyma oedd trydydd gôl Whittingham mewn tair gêm yn erbyn West Brom, ac mae'n golygu bod y Baggies wedi colli pedwar gêm yn olynol.

Roedd cyfle i West Brom gipio pwynt yn hwyr, ond llwyddodd Marshall i gadw ergyd Shane Long allan gydag arbediad gwych yn y munudau olaf.

Mae Caerdydd nawr yn y 14eg safle, rhwng Stoke a Norwich.

Caerdydd 1 - 0 West Brom

Marshall Théophile-Catherine Taylor Medel (Gunnarsson - 87' ) Caulker Turner Odemwingie (Kim - 90' ) Mutch Campbell (Maynard - 82' ) Whittingham Noone Myhill JonesRidgewell Yacob (Sinclair - 74' ) McAuley Olsson Amalfitano (Berahino - 73' ) Mulumbu Long (Vydra - 88' ) Sessegnon Brunt

Straeon perthnasol