Tân mawr yng Nghasnewydd wedi diffodd

  • 13 Rhagfyr 2013

Mae un criw o ddiffoddwyr yn parhau i ddiogelu safle garej yng Nghasnewydd, wedi tân mawr yno fore Gwener.

Roedd dros 40 diffoddwr tân yn brwydro'n erbyn y fflamau yn gynharach.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod y garej ar Ffordd Coomassie yn ardal Y Pil o'r ddinas.

Cafodd y gwasanaethau brys wybod am y tân am ychydig wedi 6am fore Gwener.

Anfonwyd chwe phwmp yno yn ogystal â dau blatfform hydrolig a dau dancer dŵr.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod yn amddiffyn adeiladau cyfagos gyda "llen o ddŵr".

Mae diffoddwyr o Dyffryn, Maendy, Malpas, Cwmbran, Aberdar, Caerffili, Caerdydd a'r Barri bellach wedi cyrraedd y safle.