Abertawe yn rownd y 32 olaf

Abertawe
Roedd niwl trwchus a tymheredd isel wedi gwneud hi'n anodd i Abertawe

Mae Abertawe wedi cyrraedd rownd nesaf y Gynghrair Ewropa er iddyn nhw golli yn erbyn St Gallen nos Iau.

Roedd yr Elyrch yn gwybod bod gem gyfartal yn ddigon i sicrhau eu lle yn y 32 olaf, ond aeth canlyniad arall yn y grŵp o blaid y Cymry.

Roedd y tymheredd oer a'r niwl wedi creu amodau anodd yn y Swistir, ond er hynny, Abertawe gafodd y gorau o'r cyfleoedd yn yr hanner cyntaf.

Aeth Roland Lamah yn agos at rwydo dwywaith ac roedd cyfleodd i Jonjo Shelvey a Wayne Routledge, ond di-sgor oedd hi erbyn yr egwyl.

Doedd Abertawe methu a chadw'r pwysau ymlaen yn yr ail hanner, gyda'r gôl geidwad Gerhard Tremmel yn arbed dwy ergyd gan Roberto Rodriguez.

Ni chafodd ergyd gan St Gallen ei chyfri wedi trosedd ar Neil Taylor, ond aeth St Gallen ar y blaen pan rwydodd Marco Mathys drwy'r niwl gyda 10 munud yn weddill.

Er y golled, mae Abertawe yn symud ymlaen i rownd y 32 olaf, a hynny am y tro cyntaf yn eu hanes.

Roedd Abertawe wedi methu a pharatoi yn llawn ar gyfer y gêm wedi i'r tywydd a phroblemau technegol effeithio ar eu siwrne i'r Swistir ddydd Mercher.

Bydd y chwaraewyr yn siŵr o anghofio hynny nawr, a dydd Llun bydd yr enwau yn cael eu tynnu o'r het, gyda'r Elyrch ymysg clybiau fel Napoli, Ajax a Juventus.

St Gallen 1 - 0 Abertawe

Herzog Mutsch LenjaniJanjatovic Russo Besle Wüthrich Demiri Karanoviç (Keita - 13' ) Mathys (Franin - 88' ) Rodriguez (Nushi - 59' ) Tremmel Tiendalli Taylor Shelvey Chico (Cañas - 62' ) Amat Routledge (Williams - 65' ) De Guzmán Bony (Hernández - 77' ) Pozuelo Lamah