Pobl yn talu teyrnged
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

De Affrica yn talu teyrnged

10 Rhagfyr 2013 Diweddarwyd 21:44 GMT

Yn deulu, tywysogion, arweinwyr gwlad a ffrindiau, daeth miloedd at ei gilydd yn Soweto i gofio Nelson Mandela. Yn stadiwm yr FNB, bu bron i gant o arweinwyr rhyngwladol a degau o filoedd o bobl gyffredin yn coffau'r cyn-arlywydd fu farw nos Iau yn 95 oed. Cafodd ei ddisgrifio gan Barack Obama, fel cawr yn y llyfrau hanes ac fel dyn cwbl unigryw gan arlywydd presennol De Affrica, Jacob Zuma. Adroddiad Aled Huw.