Cynnydd yng nghyflogau aelodau seneddol?

  • 8 Rhagfyr 2013
San Steffan

Bydd cyflogau aelodau seneddol yn codi i £74,000 y flwyddyn - cynnydd o 11%, pe bai argymhellion corff annibynnol yn cael eu gweithredu.

Mae'r corff annibynnol sy'n gyfrifol am eu tâl - Ipsa - yn bwriadu cyflwyno'r cynnydd ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf yn 2015.

Er hynny, bydd yn rhaid i aelodau dalu cyfraniadau uwch i'w cynlluniau pensiwn, a bydd yna doriadau yn y tâl mae aelodau yn ei dderbyn wrth adael y swydd.

Roedd arweinwyr y pleidiau wedi anghytuno gyda'r bwriad pan gafodd y syniad ei wyntyllu gyntaf.

Ond dyw Ipsa ddim angen sêl bendith y Senedd er mwyn cyflwyno'r newidiadau.

Mae disgwyl y bydd y newidiadau yn costio £4.6 miliwn i'r trethdalwyr.

Proses ymgynghori

Cafodd Ipsa ei sefydlu gan y Senedd yn dilyn sgandal lwfansau aelodau seneddol yn 2009

Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street fod cyflogau aelodau seneddol yn fater i Ipsa.

Ond ychwanegodd: "Mae'r llywodraeth wedi datgan ei safbwynt i Ipsa fel rhan o'r broses ymgynghori ar dâl aelodau seneddol."

"Fe'i gwnaed yn gwbl glir, tra bod Ipsa yn gorff annibynnol gafodd ei sefydlu gan y Senedd, yn y dyfodol mae disgwyl y bydd unrhyw benderfyniadau ar gyflogau yn ystyried y sefyllfa ehangach, gan gynnwys polisi'r llywodraeth yn ymwneud â chyflogau a phensiynau yn y sector gyhoeddus."

Dywedodd Danny Alexander, Gweinidog y Trysorlys fod y codiad cyflog yn gwbl annealladwy a bod angen ailystyried.

Dywedodd fod y syniad yn gwbl amhriodol mewn cyfnod lle mae yna gyfyngu ar gyflogau yn y sector gyhoeddus.

Yr un oedd neges Canghellor yr Wthrblaid Ed Balls, gan ddweud fod y syniad yn gwbl afresymol mewn gofynnod o galedi i bobl gyffredin.

Ond dywedodd yr AC Ceidwadol Syr Peter Bottomley y bod hi'n synhwyrol i gorff allan ôl benderfynu ar gyflogau aelodau seneddol

Dyma'r modd mae denu pobl o bob cefndir i Dy'r Cyffredin, meddai.

"Bydd pob arweinydd yn dweud mai hwn yw'r swm anghywir ar yr adeg anghywir.

"Ond y gwir ydi, yr arweinwyr wnaeth sefydlu system Ipsa. Y nhw sydd gyda'r hawl i osod lefel y cyflog a does gan neb yr hawl i ymyrryd gyda hyn."