Mandela: Teyrnged clybiau pêl-droed

Mae pobl wedi bod yn gosod teryngedau y tu allan i Uwch Gomisiwn De Affrica yn Llundain
Mae pobl wedi bod yn gosod teyrngedau y tu allan i Uwch Gomisiwn De Affrica yn Llundain

Bydd peldroedwyr yr Uwchgynghrair yn cynnal munud o gymeradwyaeth cyn pob gêm dydd Sadwrn fel teyrnged i'r diweddar Nelson Mandela.

Bydd chwaraewyr Caerdydd a Crystal Palace yn cymeradwyo cyn y gêm yn Selhurst Park am 3pm.

Fe fydd yr un math o deyrnged yn cael ei roi yng ngemau dydd Sul a hefyd honno rhwng Abertawe a Hull ddydd Llun.

Mae Cynghrair Pêl-droed Lloegr hefyd wedi argymell bod teyrngedau tebyg yn digwydd yn y Bencampwriaeth, Adran Un a'r Ail Adran.

Bu farw cyn-arlywydd De Affrica ddydd Iau, yn 95 oed.

Nos Wener cafodd gwylnos ei chynnal yn sgwâr Trafalgar yn Llundain gyferbyn ag Uwch Gomisiwn De Affrica.

Bu cannoedd yn aros yn eiddgar y tu allan i'r Uwch Gomisiwn er mwyn llofnodi llyfr cydymdeimlad.

Ymhlith y rhai i adael negeseuon oedd y prif weinidog David Cameron ac arweinydd y blaid Lafur, Ed Miliband.

Cafodd gwasanaeth arbennig er cof am Mr Mandela ei gynnal yng Nghadeirlan St Paul nos Wener.

Bu pobl hefyd yn ymgynull ger cerflun Mr Mandela yn Parliament Square
Bu pobl hefyd yn ymgynull ger cerflun Mr Mandela yn Parliament Square

Yn y cyfamser, mae'r Swyddfa Dramor wedi galw ar faneri cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig i gael eu chwifio ar hanner y mast tan 8pm ddydd Iau.

Fe fydd gwasanaeth diolchgarwch i gofio am fywyd a chyfraniad y cyn arlywydd yn cael ei gynnal yn Abaty Westminster ar ôl ei angladd ar ddydd Sul Rhagfyr 15.

Bydd yr angladd gwladol llawn ym mhentref Qunu yn nhalaith Eastern Cape - lle cafodd Mr Mandela ei fagu.

Bydd corff Nelson Mandela yn gorwedd yn gyhoeddus yn y brifddinas Pretoria am dridiau cyn yr angladd.