Nelson Mandela: Cymry yn cofio

  • 6 Rhagfyr 2013
Roedd Nelson Mandela yn gyfaill i deulu Peter Hain
Roedd Nelson Mandela yn gyfaill i deulu Peter Hain

Roedd Nelson Mandela yn "oleuni o gyfiawnder a rhyddid oedd yn disgleirio ar draws y byd", meddai'r aelod seneddol ac ymgyrchydd gwrth-apartheid Peter Hain.

Clywodd AS Castell-nedd am farwolaeth y dyn oedd yn gyfaill teuluol wrth iddo fynychu dangosiad cyntaf ffilm am fywyd Mr Mandela, fu farw yn 95 oed nos Iau.

Un arall a oedd yn adnabod Nelson Mandela oedd Gwilym Owen. Yn wreiddiol o Lansannan, mae Mr Owen wedi byw yn Ne Affrica ers 1997 ac wedi gweithio yn y wlad am ugain mlynedd cyn hynny fel peiriannydd sifil.

Fe wnaeth e gyfarfod â Nelson Mandela sawl gwaith, a bu'n son wrth Dylan Jones ar y Post Cyntaf ar Radio Cymru am ei deimladau pan glywodd y newyddion nos Iau. Dywedodd:

"Tristwch ofnadwy yw'r teimlad cyntaf wrth gwrs... ges i'r fraint o gyfarfod hefo Mandela yn y 90au a dod i nabod y teulu - ei wyresau yn arbennig.

"Rydyn ni wedi bod yn disgwyl y farwolaeth ers rhyw chwech neu saith mis bellach ond er hynny mae'r tristwch a'r tawelwch yn fy nharo i yma, ac felly mae'r wlad wedi cael sioc.

"Pan ddaeth o allan o'r carchar ei neges fawr oedd na fyddai'r ANC (yr African National Congress) yn creu trafferth i bobl De Affrica... bod awyrgylch o faddeuant yn ei galon o ac roedd hynny'n neges bwysig."

'Llawn dynoliaeth'

Bu Peter Hain yn ymgyrchydd amlwg yn erbyn apartheid wedi i'w deulu ei hun adael De Affrica oherwydd ei gefnogaeth i Nelson Mandela.

Dywedodd Mr Hain wrth BBC Cymru: "Roedd rhywbeth am ei ymweliad â Chymru lle'r oedd yn uniaethu gyda Chymru fel gwlad fechan ac oherwydd rôl y mudiad gwrth-apartheid yng Nghymru.

"Roeddech chi'n medru teimlo hynny yn y modd yr oedd yn ymateb i bobl yma ac yn diolch iddyn nhw yn hael iawn."

Ychwanegodd fod Mr Mandela yn "ffigwr magnetig" na wnaeth erioed golli ei allu i uniaethu ag, a chyfathrebu gyda phobl gyffredin.

"Roedd yn llawn dynoliaeth ac yn arweinydd pobl heblaw bod yn ffigwr aruthrol.

"Roedd yn arweinydd dewr a dreuliodd fwyafrif ei fywyd fel oedolyn ar Robben Island mewn cell fechan, ond fe wnaeth uno cenedl oedd ar wahan, fe ddaeth â phobl at ei gilydd, fe wnaeth faddau i'r gormeswyr er na wnaeth anghofio hynny chwaith."

'Dyn anhygoel'

Wrth siarad ar y Post Cyntaf dywedodd Archesgob Cymru y Doctor Barry Morgan:

"Roedd e'n ddyn anhygoel dwi'n meddwl. Pan y'ch chi'n meddwl bod y dyn yma wedi treulio 26 o flynyddoedd mewn carchar ac wedi cael ei gosbi'n llym gan lywodraeth De Affrica... mae'n dod allan a dyw e ddim eisiau dial, mae e eisiau maddau.

"Y ffaith bod dim rhyfel cartref wedi digwydd yn Ne Affrica fel roedd pawb wedi meddwl y bydde wedi digwydd... Nelson Mandela oedd yn gyfrifol am hynny, oherwydd fe wnaeth e'n siŵr fod yna gymodi a bod yna faddeuant.

"Mae hwnna dwi'n credu yn beth ffantastig."

Daeth teyrnged hefyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, a dywedodd y Parchedig Ddoctor Geraint Tudur fod Nelson Mandela wedi torri'r cylch o gasineb yn Ne Affrica gan ddangos sut y gall heddwch oresgyn trais.

"Byddai gan bobl ddu De Affrica, oedd wedi dioddef creulondeb y system apartheid, bob cyfiawnhad i ddial ar eu gorthrymwyr, ond diolch i esiampl anhygoel Mandela llwyddwyd i osgoi rhyfel cartref gwaedlyd," meddai.

Rhaglenni arbennig

Fe fydd amserlen S4C yn newid i gynnwys yr ymateb o Gymru a thu hwnt.

Yn y dilyn y rhaglen newyddion arbennig a fu ar S4C nos Iau bydd Newyddion 9, a rhaglenni newyddion eraill S4C yn cynnwys ymateb llawn i farwolaeth Nelson Mandela dros y dyddiau nesaf gyda bwletinau estynedig.

Bydd S4C hefyd yn darlledu'r rhaglen 'Mandela' ar ôl Newyddion 9 heno. Bydd y rhaglen ddogfen sydd wedi'i chynhyrchu gan ITV Cymru yn edrych yn ôl ar fywyd eithriadol Nelson Mandela, gan bwyso a mesur ei gyfraniad i'w wlad, ac i'r byd.

Bydd rhaglen gylchgrawn Heno hefyd yn rhoi sylw i'r newyddion ar y rhaglen heno, a bydd yr opera, Trioleg Mandela yn cael ei darlledu nos Sul, Rhagfyr 8, am 9.30pm.

Eisoes mae nifer o awdurdodau lleol Cymru wedi dweud y bydd eu baneri yn chwifio ar hanner y mast ddydd Gwener. Mae Cynghorau Wrecsam, Sir Gaerfyrddin, Casnewydd a Chaerdydd wedi cadarnhau hynny, ac fe fydd Cyngor Caerdydd hefyd yn agor Llyfr Coffa yn Neuadd y Ddinas o hanner dydd Ddydd Gwener.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd munud o ddistawrwydd cyn bob un o gemau'r penwythnos fel arwydd o barch i Nelson Mandela.